Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Adroddiad Dylan Jones, BBC Cymru
"Mae'r drysau'n agor yn rhy eang"
 real 56k

Heini Gruffudd
"Roedd ei gasgliad yn gwbl afresymol"
 real 28k

Dydd Sadwrn, 11 Awst, 2001, 12:29 GMT
Rhybudd Llywydd ynglyn derbyn y di-Gymraeg
Eifion Lloyd Jones, gyda;i wraig Leah Owen a'r plant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys Llwyd
Eifion Lloyd Jones gyda'i deulu
Yn ei araith fel Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod, galwodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar ysgolion Cymraeg i fod yn ymwybodol o beryglon agor y drysau i'r di-Gymraeg.


Mwy trist na thristwch ydy clywed mam Gymraeg o aelwyd cymysgiaith yn siarad Saesneg 'i phlentyn ar fuarth ysgol gynradd Gymraeg.

Eifion Lloyd Jones
Ond mae cadeirydd mudiad "Rhieni dros Addysg Cymraeg" wedi beirniadu sylwadau Eifion Lloyd Jones.

Yn l Heini Gruffudd mae'r sylwadau yn rhai hollol annerbyniol wrth i 90-95% o blant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru yn dod o gartrefi Saesneg yn unig.

"Mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar rieni di-Gymraeg i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.

"Beth sydd ei angen ydy mwy o gyfle i rieni di-Gymraeg i ddysgu'r iaith, a fyddai'n golygu y gall mwy o blant siarad yr iaith adra."

Galwodd Mr Jones, o lwyfan y pafiliwn ddydd Sadwrn, fod 'na berygl i "genhadu pawb i ddysgu'r iaith."

"Er budd y Gymraeg a'i dysgwyr mae'n bryd ystyried o ddifrif faint o ddysgwyr y gellir eu derbyn i'n hysgolion ni.

"Y cwestiwn hanfodol y dylid ei ofyn ydy beth ydy'u cymhelliad nhw a'u rhieni dros fynychu'r ysgolion hynny?

"Dagrau pethau ydy fod llu mawr o rieni'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, heb yr un mymryn o awydd, na bwriad, Cymreigio'r plant mewn gwirionedd.

"Mwy trist na thristwch ydy clywed mam Gymraeg o aelwyd cymysgiaith yn siarad Saesneg 'i phlentyn ar fuarth ysgol gynradd Gymraeg.

Iaith ysgol yn unig?

"Pa obaith sydd gan athrawon i geisio Cymreigio'r plentyn pan fo'r rhiant yn ei gwneud hi'n hollol amlwg mai iaith ysgol yn unig ydy'r Gymraeg?

"Gwell o lawer i'r rhiant, y plentyn, yr ysgol a'r iaith fyddai canfod addysg mewn man arall.

Eifion Lloyd Jones
Er budd yr iaith rhaid faint o ddysgwyr y gellir eu derbyn i'n hysgolion ni
"Mae'n rhaid bod yn fwy dewisol, felly, werth dderbyn plant o aelwydydd di-Gymraeg i ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog - yn ddewisol o ran niferoedd trwy fod yn ddewisol o ran cymhelliad.

"Pan fo prifathrawon yn gwybod fod eu cyllideb a swyddi'r staff yn dibynnu ar eu niferoedd, mae'r demtasiwn i agor y pyrth led y pen, yn aml, yn drech nag unrhyw egwyddor.

"Byddai'r chwyldro sydd ei angen ar y Gymraeg heddiw yn golygu newid sylfaenol yn y dull o gyllido'r Gymraeg.

"Byddai hynny yn rhoi cyfle i rai prifathrawon, a gorfodaeth ar eraill, i fod yn llawer mwy dewisol yn eu cenhadu.

Rhy barod i agor y drws

"Byddai hefyd, yn rhoi cyfle i rieni a'u plant sydd o ddifrif am ddysgu'r Gymraeg gael gwneud hynny'n llawer mwy llwyddiannus mewn amgylchedd gadarn a chefnogol."


Ni piau gwarchod dyfodol y wlad a'r iaith honno - yn erbyn gwleidydd a gohebydd, cyfrwys a chiaidd

Eifion Lloyd Jones
A dywedodd hefyd fod Cymry wedi bod yn "rhy barod i agor drysau ein pentrefi a'n cymunedau led y pen i bwy bynnag sy'n dymuno sathru ar ein genedigaeth fraint."

Cyfeiriodd at yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes ynglyn 'r broblem iaith a mewnfudo a gafodd ei hamlinellu yn sylwadau'r Cynghorydd Seimon Glyn.

"Mae'n bryd bod yn llawer mwy gwarchodol a dethol ein croeso. Ac os ydy dweud hynny yn rhoi esgus i racsyn o bapur dyddiol ein enllibio ni, be' ydy o bwys?

"Ni piau gwarchod dyfodol y wlad a'r iaith honno - yn erbyn gwleidydd a gohebydd, cyfrwys a chiaidd."

Cymraeg ysgrifenedig

Yn ei araith hefyd cyfeiriodd at ddirywiad mewn Cymraeg ysgrifenedig nifer o waith myfyrwyr y mae'n ei ddarllen yn wythnosol.

Fel Pennaeth Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau yn y Brifysgol ym Mangor, mae Mr Jones yn gweld ansawdd Cymraeg amrywiol iawn o blith ei fyfyrwyr.

Yn ei araith eglurodd mai dim ond tair myfyrwraig allan o 20 oedd yn gallu ysgrifennu Cymraeg "gweddol gywir."

A'i fod yn teimlo bod angen achub iaith lafar ac ysgrifenedig bob un cyn y bydd yn rhy hwyr.

Doedd Mr Jones ddim yn edifar iddo ddefnyddio llwyfan yr Eisteddfod i gyflwyno'r neges gan ddweud, "Heb iaith, heb Eisteddfod."

Galwodd ar y Cymry i " dynghedu nad felly y bydd hi - ac y gwnawn ni'n gorau glas i amddiffyn y brydd Cymraeg ac adfer iaith yr Eisteddfod a'r genedl hon."


Darllennwch hefyd:

Nid wrth eu niferoedd mae mesur steddfod

a hefyd Holi Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Dinbych 2001

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.