Yn Ninbych y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf y fileniwm newydd yn y gogledd.
Mae hon yn ardal hanesyddol gyda Dinbych yn brif dref ardal amaethyddol Dyffryn Clwyd.
A chan bod cysgod y clwy traed a genau'n drwm ar ardaloedd o'r fath ers rhai misoedd bu pryder ynglýn â ellid cynnal yr Eisteddfod eleni, yn arbennig wedi'r penderfyniad i beidio cynnal Eisteddfod yr Urdd a Sioe Amaethyddol Llanelwedd.
Ond y penderfyniad oedd y dylid cynnal Eisteddfod 2001 yn Ninbych a'r Cyffuniau a bu BBC Cymru'r Byd yn adlewyrchu bwrlwm y brifwyl i gynulleidfa dros y byd i gyd.