Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Adroddiad Karen Peacock BBC Cymru
"Mae'n gyfle i gynrychioli Cymru"
 real 56k

Dydd Sadwrn, 7 Gorffenaf, 2001, 09:56 GMT
O Fn i Fanaw
logo'r gemau
Mae yna 15 o gampau gwahanol
Tra bod y gwledydd mawr yn cystadlu ar y caeau chwarae dros y penwythnos mae'r ynysoedd bychain hefyd yn herio'u gilydd.

Eleni Ynys Manaw sy'n cynnal 9fed Gemau'r Ynysoedd ac unwaith eto mae Ynys Mn yn cystadlu.

O golff i gymnasteg, mae 15 o gampau gwahanol.

Mi adawodd Tm Ynys Mn bnawn Gwener ar gyfer y seremoni agoriadol, ar dir eu cefndryd Celtaidd, sy'n digwydd ddydd Sadwrn.

Mae yna 135 o aelodau yn y tm, yn cystadlu mewn 11 o'r 15 camp, a'r rheiny'n amrywio mewn oedran rhwng 12 a 50.

Ddwy flynedd yn l enillodd Ynys Mn y Gystadleuaeth Bl-droed yn Gotland, Sweden, ac mi ddylai hynny ysbrydoli'r cystadleuwyr eleni.

Pl-droed merched

Ac am y tro cyntaf mi fydd yna gystadleuaeth pl-droed merched, efo Ynys Mn yn herio cynrychiolwyr yr ynysoedd eraill.

Gobaith Ynys Mn ydy denu'r gemau - sy'n cael eu cynnal bob dwy flynedd - i'r ynys yn 2007 neu 2009.

Cyn cychwyn cafodd ffiol ei llenwi dwr Ffynnon Clorach ar yr ynys ar gyfer seremoni pan fydd yr holl ynysoedd yn cyflwyno dwr i Ynys Manaw.

Ac o hyn tan ddydd Gwener nesa mi fydd yna ddigon o angen torri syched ar feibion a merched Mn, Mam Cymru.

Yr ynysoedd eraill fydd yn cymryd rhan ydy Alderney, Aland, Froya, Gibraltar, Gotland, Guernsey, Hitra, Jersey, Rhodes, Saark, Saaremaa, Shetland, Sant Helena, Ynys Wyth, Ynysoedd y Ffalcland, Ynysoedd Ffaro, Ynys Tywysog Edward (Canada), Yr Ynys Werdd, Ynysoedd Erch (Orkney), Ynysoedd y Caiman, Ynys Manaw ac Ynys Mn.

Gemau'r Ynysoedd, Ynys Manaw: 6 - 14 Gorffennaf 2001

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.