|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Llun, 11 Mehefin, 2001, 10:30 GMT
Alun Michael yn ôl ar y meinciau blaen
Mae tri Aelod Seneddol Cymreig, Alun Michael, Peter Hain, a Kim Howells wedi eu dyrchafu i swyddi dylanwadol.
Cafodd Alun Michael, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, ei benodi'n Weinidog Materion Gwledig. Bydd yn cymeryd lle Nick Brown, y cyn-Weinidog Amaeth. Un o'i brif dasgau fydd delio ag effaith y clwy traed a'r genau. Cafodd achosion newydd eu canfod yn Settle, Swydd Efrog. 'Gweithiwr caled' "Mae'n weithiwr caled iawn," meddai Carwyn Jones, Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad. "Rwy'n siwr y bydd yn gaffaeliad mawr i'r adran newydd." Cafodd Peter Hain, AS Castell Nedd, ei benodi'n Weinidog Ewrop yn lle Keith Vaz. Ddechrau'r flwyddyn cafodd ei benodi'n Weinidog Ynni wedi cyfnod hir yn Y Swyddfa Dramor.
Cafodd AS Pontypridd, Kim Howells, ei benodi'n Weinidog Twristiaeth, Ffilm a Darlledu. Yn gynt yn y diwrnod rhybuddiodd y cyn-Weinidog Materion Defnyddwyr fod rhaid i'r llywodraeth ymateb i'r nifer isel a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol. "Mae'n rhaid i ni geisio darganfod pam bod pobol yn colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth," meddai. Dros y Sul cafodd Paul Murphy ei ailbenodi'n Ysgrifennydd Cymru ar ôl i'r Prif Weinidog addo yn ystod yr ymgyrch etholiadol y byddai'n cadw'i swydd yn y llywodraeth newydd. Cyn hynny roedd sibrydion y byddai'r swydd yn cael ei dileu.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||