|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Sadwrn, 9 Mehefin, 2001, 17:53 GMT
Trafodaethau heddwch i ail ddechrau'n fuan
John Reid: Annog y pleidiau i ailddechrau trafod
John Reid: Annog y pleidiau i ailddechrau trafod Mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, John Reid, wedi dweud y bydd trafodaethau ar ddyfodol y broses heddwch yn ailddechrau'n fuan.
Fe ddaw'r cyhoeddiad ar ôl i blaid Ian Paisley, y DUP, sy'n gwrthwynebu Cytundeb Gwener y Groglith, gipio tair o seddi Unoliaethwyr Ulster yn San Steffan. Cynyddodd Sinn Fein nifer eu seddi nhw hefyd. Fe fydd Dr Reid yn cysylltu gyda'r pleidiau yn y dyddiau nesa i geisio sicrhau nad ydy'r newid yn y tirlun gwleidyddol yn dryllio'r broses heddwch. "Mae'r canlyniad yn gyrru neges glir i gynrychiolwyr y dalaith bod angen sicrhau bod Cytundeb Gwener y Groglith yn cael ei weithredu yn llawn," meddai Dr Reid. Dadgomisiynu arfau Cafodd y trafodaethau ar dadgomisiynu arfau, newidiadau i'r heddlu yn y dalaith a chael gwared ar y milwyr yn y dalaith eu gohirio yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Mae Unoliaethwyr Ulster wedi bod yn galw ar yr IRA i ddadgomisiynu eu harfau tra bod Sinn Fein a'r SDLP yn gwrthwynebu'r newid i heddlu'r dalaith.
Bu'r pregethwr a'r gwleidydd Ian Paisley yn canu mawl i lwyddiant ei blaid, gan mai dyma oedd eu canlyniadau gorau erioed mewn Etholiad Cyffredinol. Fe gipiodd y DUP dair sedd oddi ar Blaid David Trimble yn Strangford, Dwyrain Deri a Gogledd Belfast. Anniddigrwydd Er bod Unoliaethwyr Ulster yn parhau i fod y blaid fwyaf gyda chwe sedd roedd y canlyniadau'n dangos anniddigrwydd cynyddol gyda Cytundeb Gwener y Groglith o dy'r Protestaniaid. Fe gafodd plaid Mr Trimble lwyddiant wrth i Sylvia Hermon gipio sedd North Down oddi ar yr Annibynnwr Bob McCartney, un arall oedd yn gwrthwynebu'r broses heddwch.
Bedair blynedd yn ôl roedd 15,000 rhyngddyn nhw. Er nad ydy Sinn Fein yn cymryd eu seddi yn San Steffan fe gipiodd y blaid ddwy sedd oddi ar Unoliaethwyr Ulster hefyd. Cipiodd Pat Doherty sedd yng Ngorllewin Tyrone. Mae'r brwydrau a welwyd rhwng cefnogwyr Sinn Fein a'r DUP mewn cyfri ym Melfast yn awgrymu fod yr hen glwyfau yn dal i'w gweld.
|
|||||||||||||||