|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Sadwrn, 9 Mehefin, 2001, 11:45 GMT
Blair yn enwi ei Gabinet newydd
Tony Blair yn dychwelyd i Rif 10 yn fuddugoliaethus
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud newidiadau i'w gabinet yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol.
Y sioc mwya ydi fod Jack Straw i olynu Robin Cook fel Ysgrifennydd Tramor, gyda David Blunkett yn Ysgrifennydd Cartre newydd. Does 'na ddim lle yn y cabinet bellach i Chris Smith, Ann Taylor a Nick Brown. Fe fydd Paul Murphy, Ysgrifennydd Cymru, yn cadw ei swydd. Mae 'na bum dynes yn y cabinet gan gynnwys Margaret Beckett yn Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a'r cyn-athrawes Estelle Morris yn bennaeth ar adran newydd o dan yr enw Addysg a Sgiliau. Mae John Prescott yn cael ei swyddfa ei hun yn y Cabinet yn goruchwylio gweithgareddau yn gyffredinol. Dywedodd Mr Cook ei fod yn edrych ymlaen i gael dychwelyd i ganol gwleidyddiaeth Prydain efo'i swydd newydd. Dywedodd Mr Cook ei fod yn edrych ymlaen i gael dychwelyd i ganol gwleidyddiaeth Prydain efo'i swydd newydd. "Rydw i wedi bod wastad yn seneddwr gynta oll ac wedi colli'r Tý'r Cyffredin dros y pedair blynedd diwetha. "Fel Ysgrifennydd Tramor, ychydig o amser 'dwi wedi ei dreulio yn y Tý.... Dwi'n falch i fod yn ôl yng nghanol y dadleuon yn y siambr unwaith eto." Dywedodd Ms Short, sy'n parhau fel Ysgrifennydd Datblygiadau Rhyngwladol bod y newyddion am newid yr Ysgrifennydd Tramor wedi bod yn sioc i bawb.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach newydd, Patricia Hewitt nad oes yna erioed "swydd am byth mewn gwleidyddiaeth" wedi bod. Penodi merched Mae Ms Hewitt yn un o bedair dynes sydd wedi cael eu dyrchafu i'r cabinet wrth i saith o ferched fod yn aelodau.
Y tair arall ydy'r Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau, Estelle Morris; Prif Chwip Hilary Armstrong a'r Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tessa Jowell. Cafodd adran newydd ei sefydlu, Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gymryd lle'r Weinyddiaeth Amaeth (Maff) a fydd yn cael ei arwain gan gyn Arweinydd Tý'r Cyffredin, Margaret Beckett.
Cyn weinidog yn y Swyddfa Gartre Charles Clarke ydy'r unig ddyn newydd yn y cabinet, Gweinidog heb bortffolio a Chadeirydd y Blaid Lafur. Mae Mr Blair wedi gadael Stryd Downing Street am Chequers a does dim disgwyl iddo gyhoeddi apwyntiadau y tu allan i'r cabinet, y gweinidogion, tan ar ôl y penwythnos. Mae disgwyl i weld a fydd Keith Vaz, Gweinidog Ewrop yn cadw ei swydd a'i peidio.
|
||||||||||||||||||