|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Iau, 7 Mehefin, 2001, 22:15 GMT
Pleidleisiau post heb eu dosbarthu ar Ynys Môn
Bu'r Post Brenhinol ar Ynys Môn yn gwneud ei orau glas i ddosbarthu pleidleisiau post gyrhaeddodd ei swyddfa ddidoli ym Mangor fore Iau.
Bu'r postmyn yn dosbarthu'r ffurflenni i gartrefi ar yr ynys ac yn disgwyl tra bod y deiliaid yn eu llenwi er mwyn eu dosbarthu i'r gorsafoedd pleidleisio. Os nad oes neb adref, buon nhw'n gadael nodyn iddyn nhw ffonio'r swyddfa ddosbarthu ac fe wnaed trefniadau'n i gasglu'r bleidlais cyn 10 o'r gloch nos Iau. Dim syniad Yn ôl y Post Brenhinol, doedd ganddyn nhw ddim syniad beth aeth o'i le a dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i ddweud faint o ffurflenni sydd heb eu dosbarthu. Credir mai ond ar Ynys Môn y mae'r broblem yma wedi codi. Mae swyddogion y cyngor wedi derbyn nifer o gwynion gan bobol yn dweud nad oedden nhw wedi derbyn eu ffurflenni pleidleisio. Yn ôl yr awdurdod, mi roedden nhw wedi derbyn 2,093 o geisiadau am bleidlais drwy'r post ac wedi'u gyrru allan. Mae 1,323 wedi'u dychwelyd ond, yn ôl y cyngor, mi allai fod pob math o resymau pam bod y 770 arall heb yrru eu ffurflenni'n ôl.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||||||||