![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Sadwrn, 2 Mehefin, 2001, 16:53 GMT
Gwlad Pwyl yn claddu gobeithion Cymru
![]() John Hartson: Dathlu'n rhy gynnar
Cymru 1 Gwlad Pwyl 2
Claddodd Gwlad Pwyl obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn. Wedi 13 munud sgoriodd Nathan Blake wedi i golgeidwad Gwlad Pwyl Jerzy Dudek fethu. Yna cafodd Cymru fraw: cliriodd Kit Symons y bêl oddi ar y lein wedi i Kominski drechu golgeidwad Cymru Paul Jones. Daeth Gwlad Pwyl yn gyfartal pan sgoriodd Emmanuel Olisadebe wedi iddo dderbyn pas o'r agell dde. Siom Cafodd y dorf siom pan fethodd Ryan Giggs gyfle euraidd o chwe llath wedi i Nathan Blake dorri ar y dde. Ychydig o funudau'n ddiweddarach, llwyddodd Giggs i weu drwy'r amddiffyn ond aeth y bêl heibio'r postyn dde. Yna daeth Cymru o dan bwysau. Wedi i Kominski saethu bu raid i Jones arbed ddwywaith cyn i Gymru glirio o'r lein. Adeg yr egwyl roedd y Cymry'n siomedig. Yna cafodd y Cymry fraw arall. Camddealltwriaeth Oherwydd camddealltwriaeth rhwng Andy Melville a Robert Page cafodd Olisadebe gyfle heb ei ail o bedair llath. Ond arbedodd Jones yn wych. Yna sgoriodd Gwlad Pwyl. Daeth eilydd Gwlad Pwyl Kryszalowicz ar y cae a saethu â'i droed chwith. Funud yn ddiweddarach daeth Cymru o dan fwy o bwysau. Saethodd Olisadebe ond arbedodd Paul Jones. Dair munud cyn y diwedd bu raid i Jones arbed yn wych wedi i Olisadebe gyflymu'n sydyn a gwibio drwy'r amddiffyn. Curo Cafodd Cymru eu curo gan well dîm yn yr ail hanner. Yn anffodus, ni chadwodd Cymru feddiant o'r bêl a doedd dim patrwm na disgyblaeth i'w chwarae. Wrth gwrs, roedd rhai chwaraewyr wedi blino wedi tymor hir ond roedd y dorf yn disgwyl mwy. Timau
Cymru: Paul Jones, Symons, Melville, Page, Barnard, Savage, Pembridge, Speed, Giggs, Blake, Hartson. Eilyddion: Matthew Jones, Carl Robinson, Davies, Iwan Roberts, Steve Jenkins, Koumas, Ward.
Gwlad Pwyl: Dudek, Klos, Jacek Bak, Michal Zewlakov, Arkadiusz Bak, Hajto, Kozminski, Iwan, Juskowiak, Zdebel, Olisadebe. Eilyddion: Hajdan, Rzasa, Marcin Zewlakov, Pater, Kryszalowicz, Kukielka, Krzynowek.
Dyfarnwr: Erol Ersoy (Twrci)
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |