Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Adroddiad Aled Huw BBC Cymru
"Aeth ati i wefreiddio'r gynulleidfa"
 real 56k

Alun Rhys ac Aled Huw BBC Cymru
"Mi daflodd dipyn o oleuni ar ei yrfa yn y T Gwyn"
 real 28k

Dydd Sul, 27 Mai, 2001, 11:31 GMT
Clinton: Annog ymwelwyr i ddod yn l i gefn gwlad
Bill Clinton
Cafodd Bill Clinton groeso mawr yn y gynulleidfa yn Y Gelli
Defnyddiodd cyn arlywydd America Bill Clinton ei ymweliad Gwyl y Gelli Gandryll fel cyfle i annog ymwelwyr i ddod yn l i gefn gwlad.

Dywedodd Mr Clinton fod argyfwng clwy'r traed a genau wedi bod yn achos pryder iddo ond y dylai pobl rwan ddychwelyd i'r ardaloedd gwledig.

Chelsea Clinton
Roedd Chelsea Clinton yn Y Gelli efo'i thad
Er iddo fod ychydig yn hwyr llwyddodd Bill Clinton i wefreiddio torfeydd Y Gelli.

Mewn araith bersonol taflodd oleuni ar ei gyfnod yn y T Gwyn ac ar swydd fwya pwerus y byd.

Trafodaethau heddwch oedd ei thema - a chyfeiriodd at ei obeithion yng Ngogledd Iwerddon a'i bryderon yn y Dwyrain Canol.

Gyda hiwmor ffraeth, bu'n sn hefyd am ei brofiadau gyda rhai o arweinwyr eraill y byd.

Achubodd Mr Clinton wedyn ar y cyfle i ysgwyd dwylo gyda rhai o'r miloedd oedd wedi crynhoi y tu allan i'w weld.

Dywedodd ei fod wrth ei fodd bod Prif Weinidog y Cynulliad Rhodri Morgan wedi ei annerch yn Gymraeg .

Gwahoddiad arbennig

Roedd Cerys Matthews o Catatonia wedi cael gwahoddiad arbennig i ganu i'r cyn-Arlywydd nos Sadwrn.

Bu hi'n perfformio mewn cinio lle roedd merch Bill Clinton, Chelsea, hefyd yn bresennol.

Y gred yw bod Clinton a'i deulu wedi gwahodd Cerys i gymeryd rhan.


Cerys Matthews: Gwahoddiad arbennig
Roedd y tocynnau ar gyfer darlith Bill Clinton wedi'u gwerthu i gyd.

Roedd y tocynnau am ei araith nos Sadwrn ar sut i ddatrys gwrthdaro yn costio 100 yr un, y tocynnau drutaf yn yr Wyl.

Roedd ei ddarlith yn para 45 munud a'r sibrydion yw ei fod wedi derbyn 100,000.

"Roedd hwn yn gyfle prin i wrando arno'n siarad yn gyhoeddus ym Mhrydain am y tro cyntaf ers iddo adael y T Gwyn," meddai Peter Florence.

Dechreuodd yr Wyl nos Iau gyda pherfformiad gan y band Pulp.

Yn yr Wyl mae'r digrifwr David Baddiel, yr awduron Margaret Atwood, Germaine Greer, David Lodge, Nick Hornby, Frank McCourt ac Ian McEwan, y dramodydd Alan Ayckbourn a'r newyddiadurwr John Pilger.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.