![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||||
![]() | ||||||||||
![]() | ||||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Mawrth, 24 Ebrill, 2001, 12:49 GMT
Cae Stadiwm y Mileniwm 'ddim digon da i'r FA'
![]() Mae'n edrych yn debyg bod yna broblem efo to Stadiwm y Mileniwm
Yn ôl Cymdeithas Pêl-droed Lloegr dydy cyflwr presennol cae Stadiwm y Mileniwm ddim digon da i gynnal gêm derfynol Cwpan yr FA.
Bydd trafodaethau rhwng swyddogion y Gymdeithas a rheolwyr Stadiwm y Mileniwm yn parhau bnawn Mawrth ynglyn â sut i wella cyflwr y cae. Gyda llai na thair wythnos cyn rownd derfynol cwpan yr FA daeth dirprwyaeth o'r Gymdeithas Bêl-droed i Gaerdydd i asesu cyflwr y cae. Mae yna bryderon fod y gwair wedi'i ddifetha'n ystod rownd derfynol tlws LDV Vans rhwng Port Vale a Brentford yno ddydd Sul. Mae yna ofnau hefyd fod yna broblem beirianyddol efo'r to ac nad oes modd ei gau. Er ei bod hi'n glawio'n drwm ddydd Sul cafodd y to ddim ei gau ac mae hynny wedi arwain at adroddiadau fod y to wedi torri. Niwed i'r ddelwedd Mae Jon Owen Jones, aelod seneddol Llafur Canol Caerdydd, yn pryderu y gwnaiff hyn niwed i ddelwedd y stadiwm. Y ffeinal rhwng Lerpwl ac Arsenal eleni fydd y tro cyntaf ers 1922 i rownd derfynol Cwpan yr FA beidio cael ei chwarae yn Wembley. Fis Mai felly mi fydd llygaid y byd ar Gaerdydd. Mae wyneb y cae yn y Stadiwm wedi cael ei ail osod unwaith yn barod y tymor yma, ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn rhaid gwneud hynny unwaith eto cyn mis Mai.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |