![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Mawrth, 24 Ebrill, 2001, 08:52 GMT
Cwpan FA: Pryder ynglın â Stadiwm y Mileniwm
![]() Mae'n edrych yn debyg bod yna broblem efo to Stadiwm y Mileniwm
Mae yna bryderon unwaith eto ynglın â chyflwr y cae yn Stadiwm y Mileniwm.
Gyda llai na thair wythnos cyn rownd derfynol cwpan yr FA mi fydd dirprwyaeth o Gymdeithas Pêl-droed Lloegr yn teithio i Gaerdydd ddydd Mawrth i asesu cyflwr y cae. Mae yna bryderon fod y gwair wedi'i ddifetha'n ystod rownd derfynol tlws LDV Vans rhwng Port Vale a Brentford yno ddydd Sul. Mae yna ofnau hefyd fod yna broblem beirianyddol efo'r to ac nad oes modd ei gau. Er ei bod hi'n glawio'n drwm ddydd Sul cafodd y to ddim ei gau ac mae hynny wedi arwain at adroddiadau fod y to wedi torri. Niwed i'r ddelwedd Mae Jon Owen Jones, aelod seneddol Llafur Canol Caerdydd, yn pryderu y gwnaiff hyn niwed i ddelwedd y stadiwm. Y ffeinal rhwng Lerpwl ac Arsenal eleni fydd y tro cyntaf ers 1922 i rownd derfynol Cwpan yr FA beidio cael ei chwarae yn Wembley. Fis Mai felly mi fydd llygaid y byd ar Gaerdydd. Mae wyneb y cae yn y Stadiwm wedi cael ei ail osod unwaith yn barod y tymor yma, ac mae'n edrych yn debyg y bydd yn rhaid gwneud hynny unwaith eto cyn mis Mai.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |