![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||
![]() | ||||||||
![]() | ||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||
|
![]() |
Dydd Iau, 12 Ebrill, 2001, 06:32 GMT
Diwrnod ola ffatri ddillad
![]() Diwedd cyfnod: Y ffatri yn Llambed yn cau
Dydd Iau yw diwrnod ola ffatri ddillad yn y gorllewin.
Y cwmni yw Dewhirst sy'n cynhyrchu dillad merched ac yn cyflogi 165 yn Llanbedr Pont Steffan. Bydd y rhan fwya o'r menywod yn cael cynnig gwaith yn eu ffatrïoedd yn Abertawe ag Aberteifi. Pan gyhoeddwyd y newyddion y byddai'r ffatri'n cau, roedd yn ergyd i drigolion Llambed. Mae cwmni Dewhirst yn un o'r cyflogwyr mwya yn yr ardal. Bydd yn cau ar ôl cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod. Adleoli staff Roedd y cwmni wedi dweud eu bod yn gofidio am y gweithwyr a'u bod yn gobeithio cynnig swyddi i bob un ohonyn nhw mewn ffatrïoedd eraill. Y bunt gre yw'r rheswm penna am y cau.
Ac roedd Cynog Dafis, Aelod y Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi dweud ei fod yn poeni am ddyfodol ffatri'r cwmni yn Abergwaun. Mae'r ffatri honno yn cyflogi bron i 300 o bobol.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |