| Dyma safle: Newyddion | ||||||||
|
Dydd Llun, 12 Mawrth, 2001, 11:37 GMT
Beirniadu Robinson yn America
![]() Mae Anne Robinson wedi gwrthod ymddiheuro
Er gwaetha gwrthwynebiad chwyrn fe gafodd sylwadau y cyflwynydd teledu Anne Robinson am y Cymry eu hail ddarlledu ar raglen Room 101 y BBC nos Sul.
Ar hyn o bryd mae Ms Robinson yn America i hyrwyddo ei rhaglen ar rwydwaith NBC yno. Ond mae rhai o Gymry America wedi eu cynddeiriogi gan ei sylwadau ac wedi dechrau ymgyrch yn ei herbyn. Mae Trevor Williams yn un o gyd-sylfaenwyr mudiad Twm Siôn Cati. Mudiad ydy Twm Siôn Cati sy'n ymgyrchu dros hawliau'r Cymry yn America. Dydyn nhw ddim yn hapus am ymddygiad a sylwadau Ms Robinson. 'Ddim yn dderbyniol' Dywedodd Mr Williams: "Mae America'n llawn o wahanol gymdeithasau o gefndiroedd gwahanol, dydy hi ddim yn iawn be ddywedodd Ms Robinson. "Mae Colin Powell, Ysgrifennydd Gwladol America'n derbyn llythyr o gwyn ganddon ni. "Dydy sylwadau fel hyn ddim yn dderbyniol ynglyn â neb." Chafodd y sylwadau dadleuol ddim eu torri o'r rhaglen. Gwylltiodd y gyflwynwraig lawer o bobol pan alwodd y Cymry'n "annymunol ac annifyr" ar y rhaglen. Dywedodd fod ei sylwadau'n ysgafn ac os oedden nhw wedi gwylltio pobol, roedd angen mwy o synnwyr hiwmor arnyn nhw. Ymchwiliad Heddlu'r Gogledd Ond cafodd ei hymosodiad ar y Cymry ei gondemnio yn helaeth ac mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i gwyn o hiliaeth yn ei herbyn. Dywedodd llefarydd eu bod wedi derbyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd oedd yn honni bod y cyflwynydd yn "annog casineb hiliol."
Mae'r Manic Street Preachers wedi ymuno yn y ffrae wrth i un o aelodau'r grwp, Nicky Wire, sarhau Ms Robinson mewn cyngerdd yng Nghaerdydd gafodd ei ddarlledu ar Radio 1. Ac mae aelodau'r Pwyllgor Dethol Cymreig, pwyllgor seneddol gyda llawer o Aelodau Seneddol Cymru yn eistedd arno, wedi gofyn i Ms Robinson ymddangos ger eu bron i "egluro'i hun". Ond fe ymatebodd hi y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu iddi am fod yno gan y byddai'n wastraff o'i hamser iddi ddod. Roedd Martyn Jones AS wedi gofyn i'r BBC beidio ag ailddarlledu'r rhaglen. "Mae sarhau'r genedl Gymreig unwaith yn anghywir," meddai. "Ond mae ailadrodd y sarhad wythnos yn ddiweddarach yn warthus." Ond er cydnabod bod 500 o bobl wedi cwyno am y rhaglen, gwrthod ei apêl wnaeth y BBC a bwriedir i Room 101 fynd allan eto heb unrhyw newidiadau nos Sul.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||