Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Iau, 1 Mawrth, 2001, 18:20 GMT
Ffeithiau am glwy traed a'r genau
    Beth sy'n digwydd gyda'r clwy yng Nghymru?
  • Dim ond milfeddygon y Weinyddiaeth Amaeth (MAFF) sydd 'r grym i ddatgan ardal wahardd.
  • Yn achos yr ardaloedd dan amheaeth mae'r ardal waharddedig yn mesur pum milltir. Ni all pobl adael y safle ond chaniatd arbennig gan filfeddyg MAFF.
  • Yn yr ardaloedd sydd wedi'u cadarnhau, mae'r ardal yn o leia' chwe milltir, ac mae mynediad i'r ardaloedd hynny wedi ei wahardd yn llwyr.
  • Yn l NFU Cymru mae eu haelodau wedi trefnu gwaharddiau eu hunain drwy gadw plant o'r ysgol i leihau'r cysylltiad 'r byd y tu allan.

    Faint o ffermwyr sydd yng Nghymru?

  • Yn l ffigurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae tua 31,700 o ffermwyr yng Nghymru.
  • Nid ydym yn gwybod faint o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant. Dywed NFU Cymru bod nifer o rai eraill yn y diwydiant gan gynnwys gweithwyr lladd-dai, cigyddion a helwyr, yn ogystal gweision cyflog.

      Beth yw clwy'r traed a'r genau?
    • Mae'n glefyd heintus iawn all hyd yn oed gael ei drosglwyddo drwy ronynnau llwch yn yr awyr ac maen effeithio ar foch, gwartheg, defaid a geifr.
    • Mae carnau a chegau anifeiliaid sydd wedi eu heintio yn codi'n bothelli gan achosi iddynt gloffi, creu mwy o boer a cholli eu hawydd am fwyd. Maent yn colli pwysau'n sydyn ac yn cynhyrchu llai o laeth.

      All anifeiliaid wella o'r clwy?

    • Gallant. Nid yw clwy'r traed a'r genau'n angheuol.
    • Mae brechiad ar gael, er nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n cael ei ddefnyddio yn aml mewn rhai rhannau o'r byd.



    • Ond, oherwydd ei natur heintus mae'r feirws yn achosi colledion difrifol i ffermwyr.
    • Cred milfeddygon yn y Deyrnas Unedig mai'r ffordd orau o atal y clwy rhag ymledu yw dinistrio unrhyw anifeiliaid sydd wedi eu heintio, llosgi eu cyrff ac ynysu'r holl ffermydd sydd wedi eu heffeithio o fewn ardal wahardd o bum milltir.

        Beth a wneir i atal y clwy rhag ymledu?
      • Mae pob cyngor yng Nghymru wedi gwahardd y cyhoedd rhag defnyddio llwybrau cyhoeddus a thir amaethyddol.
      • Mae mynediad i barciau gwledig, llwybrau ceffylau, beiciau a chamlesi wedi ei wahardd. Gall unrhyw un sy'n anwybyddu'r rhybuddion hyn wynebu dirwy o hyd at 5000.
      • Mae'r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru - Bannau Brycheiniog, Eryri a Phenfro - yn galw ar y cyhoedd i gadw draw.
      • Mae'r holl gronfeydd sy'n cael eu rheoli gan Ddwr Cymru ar gau i'r cyhoedd.
      • Mae nifer o gymdeithasau pysgota wedi gohirio'u gweithgareddau ac mae helwyr Cymru yn gweithredu gwaharddiad gwirfoddol.


      • Mae Gm Rhyngwladol y Chwe Gwlad rhwng Cymru ac Iwerddon ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm wedi ei ohirio. Gall Cynghrair Cymru wynebu problemau wedi gemau'r penwythnos hwn. Cyflwynwyd gwaharddiad saith diwrnod ar rasio ceffylau ar draws Prydain ddydd Mercher.

        Pryd fu'r achos diwethaf o'r fath yn y Deyrnas Unedig?

      • Digwyddodd yr achos mwyaf diweddar ym Mhrydain yn 1981 ar Ynys Wyth - pan ddinistriwyd 200 o wartheg a 369 o foch. Ond bu'r achos mwyaf difrifol diwethaf yn 1967 ble lladdwyd 442,000 o anifeiliaid wedi i dros 2,364 o achosion gael eu darganfod.



      • Amcangyfrifir ei fod wedi costio 150m i'r wlad yn 1967 a 1968. Talwyd cyfanswm o 27m i ffermwyr mewn iawndal.
      • Bu'n rhaid glanhau'r ffermydd hylif diheintiol ddwywaith y diwrnod ac ni adawyd anifeiliaid ar y tir am o leiaf chwe mis wedi'r lladd. Bu'r achosion mwyaf difrifol yng Nghymru, Sir Caer a Sir Amwythig.

        Ydi pobl mewn perygl?

      • Na. Dywed doctoriaid nad oes unrhyw berygl i iechyd pobl.
      • Yn ystod 1967 nodwyd fod un person wedi dal y clwy ac ofnwyd bod un plentyn yn dioddef.
      • Ni ddylid drysu rhwng y clefyd hwn a'r cyflwr hollol wahanol ond sydd ag enw tebyg iawn sef clwy'r dwylo, traed a'r genau sy'n gallu heintio pobl ac yn enwedig plant.

        Pa wledydd eraill sydd 'r clwy?

      • Mae'r clwy yn gyffredin mewn nifer o wledydd gan gynnwys Affrica, y Dwyrain Canol, Asia a De America.
      • Credid ei fod wedi marw'n llwyr yn Ewrop gan fod yr achos diweddaraf wedi bod yng Ngroeg y llynedd.
      • Mae Gogledd a Chanolbarth America, gwledydd y Mr Tawel a'r Caribi yn rhydd o'r clwy.

        Beth mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud?

      • Mae'r Cynulliad yn gweithio ar y cyd swyddogion MAFF.
      • Mae'r adran Materion Gwledig yn cynnal trafodaethau dyddiol ar ddatblygiadau'r dydd ac ar achosion penodol.
      • Bydd y Cynulliad yn nodi bod ffermydd penodol neu ladd-dai ag achosion arnynt ond dim ond pan yw'r achosion hynny wedi eu cadarnhau.

        Llinellau cymorth y Cynulliad Cenedlaethol mewn argyfwng:

      • 029 20825572
      • 029 20825578
      • 029 20825586

        Llinell gymorth Cyngor Sir Powys

      • 01597 826926

        Ystafell ymchwiliad yr heddlu

      • 01874 625684
      • 01874 625097