Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Adroddiad Steve Thomas BBC Cymru
"Roedd pawb wedi'u cyffroi"
 real 56k

Dydd Llun, 19 Chwefror, 2001, 20:06 GMT
Castro'n gwrando ar y Manics
Manic Street Preachers, Hafana
17c yr un dalodd y gynulleidfa i weld y Manics
Daeth 5,000 i weld y band o'r Coed Duon - y Manic Street Preachers - yn Hafana, Ciwba, dros y Sul.

Ac ymysg y gynulleidfa roedd yr Arlywydd Castro.

Hwn oedd y tro cyntaf i fand amlwg ganu yn Saesneg yn Ciwba ers y 1970au.

Fidel Castro
Roedd Fidel Castro yn y gynulleidfa
Dim ond 17 ceiniog dalodd y gynulleidfa am eu tocynnau i'r cyngerdd yn Theatr Karl Marx yn Hafana.

Ac roedd Arlywydd Ciwba, Fidel Castro, yr un mor awyddus â gweddill cefnogwyr y Manics i'w gweld yn perfformio'n fyw.

Bu lleisydd y band James Dean Bradfield yn canu rhai o'u caneuon enwoca ond roedd y gerddoriaeth yn ddiarth i'r mwyafrif o bobol Ciwba.

Ond ynghanol yr adloniant roedd gan y band neges ddifrifol.

Wrth i'r dorf ymateb yn egnïol i'r gerddoriaeth mi ganodd y Manics gân brotest yn erbyn polisi'r Unol Daleithiau tuag at Giwba.

Roedd yn amlwg bod y gynulleidfa'n gwerthfawrogi'r perfformiad - eu blas cyntaf ar gerddoriaeth fyw band o'r Gorllewin ers Billy Joel dros 20 mlynedd yn ôl.

Yn wir, cododd y dorf gyfan ar eu traed - gan gynnwys eu harweinydd - i ddangos eu gwerthfawrogiad o berfformiad y Manics.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.