![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Llun, 12 Chwefror, 2001, 07:58 GMT
Datblygu safle hen waith dur
![]() Mi gaeodd gwaith dur Brymbo ddeng mlynedd yn ōl
Mae cynghorwyr Wrecsam yn trafod cynlluniau ar gyfer hen safle gwaith dur Brymbo.
Fis Rhagfyr mi glywodd y cyngor y byddai'n derbyn £8.5m ar gyfer y cynllun fyddai'n creu hyd at 1,000 o swyddi yn y tymor hir. Wedi 200 mlynedd o gynhyrchu haearn a dur ar y safle mae angen clirio'r holl lygredd. Clirio rwbel Mi fydd dwy filiwn o fetrau ciwbig o rwbel yn cael eu symud er mwyn gwneud lle i unedau busnes a 300 o dai. Ddydd Llun mae cynghorwyr yn derbyn adroddiad fod cwmni Brymbo Developments yn adfer a datblygu rhannau o'r safle sydd eisoes wedi derbyn caniatād cynllunio. Mi fydd y cyngor yn diogelu'r safle ac yn adfer yr adeiladau hanesyddol sydd yno. Mae swyddogion y cyngor yn argymell y dylai'r cynghorwyr gymeradwyo mān newidiadau i'r caniatād gwreiddiol a roddwyd yn 1997 cyn y cyhoeddiad fod arian ar gael. Mi fydd y cyngor yn sefydlu pwyllgor cyswllt ā'r gymuned leol.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |