![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Gwener, 1 Rhagfyr, 2000, 15:33 GMT
Symud trigolion wedi i wal ddymchwel
Mae trigolion stryd yng Nghaerfyrddin wedi cael eu symud o'u cartrefi wedi i wal 40 troedfedd ddymchwel nos Wener.
Chafodd neb ei anafu wedi i dirlithriad daro adeiladau gwag yn perthyn i'r cyngor yn Ffordd y Bragdy. Mae swyddogion y cyngor yn archwilio'r difrod cyn penderfynu pryd caiff y trigolion ddychwelyd i'w tai.
Streic y cyngor Mae Cyngor Torfaen yn rhybuddio pobol y gallai fod yna broblemau gyda rhai o wasanaethau'r cyngor dros y penwythnos wrth i rai o'r gweithwyr fynd ar streic. Y gwasanaethau casglu sbwriel ac atgyweirio tai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Mae hyn wedi codi ar ôl i'r cyngor ddweud eu bod yn bwriadu cynnig rhai cytundebau i gwmnïau o'r tu allan.
Darganfod dyn yn farw Mae Heddlu'r De'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn Aberdâr yn gynnar fore Gwener. Cafodd plismyn eu galw i Ffordd y Bont, Cwmbach, lle'r oedd dyn 32 oed wedi'i drywannu. Mae'r heddlu'n trin yr achos fel un amheus ac yn holi merch 20 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Carcharu am ymosod yn rhywiol Yn Llys y Goron Caerdydd, mae dyn wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ymosod yn rhywiol ar ferched ifanc. Roedd Cyril Burnett, 53, wedi cael ei gyhuddo o 23 o droseddau. Bydd ei enw'n cael ei roi ar gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei fywyd.
Cyhuddo o ddynladdiad Mae dyn 35 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad dynes 33 oed o Lanyrafon. Mi fu farw Michelle Dennington yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl cael ei chanfod yn ei chartre yn Stryd Tudor.
Prinder gwelyau mewn ysbytai Mae meddygon teulu yng Nghymru'n rhybuddio bod prinder gwelyau mewn ysbytai eto eleni. Mae'n debyg bod doctoriaid eisoes yn cael trafferth i gael lle i gleifion yn eu hysbytai agosaf. Yn ôl llefarydd ar ran y BMA yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n ddifrifol wrth i'r sustem fethu.
Rhyddhau yn dilyn apêl Mae'r Llys Apêl wedi rhyddau gweithiwr mewn ysbyty yn Bournemouth sydd eisoes wedi treilio hanner ei fywyd yn y carchar am ddwy lofruddiaeth. Yn ôl cyfreithwyr Peter Fell, 39, roedd ei gyfaddefiad i'r troseddau 15 mlynedd yn ôl yn annibynadwy.
Agor canolfan alw arall Cyhoeddodd Atlantic Electric and Gas eu bod yn bwriadu agor canolfan alwadau yng Nghaerdydd allai greu hyd at 250 o swyddi newydd. Mae nifer o safleoedd yn y brifddinas yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Fferi mewn trafferth Yn ôl Irish Ferries, mi ddylai llong yr Isle of Innisfree gyrraedd Rosslare am chwarter wedi tri bnawn Gwener ar ôl iddi fynd i drafferthion ger Aberdaugleddau yn gynharach y bore. Bu'n rhaid gwneud gwaith atgyweirio ar injan y fferi oedd â dros 200 o deithwyr arni.
Streicwyr post yn cyfarfod Mae gweithwyr canolfan ddosbarthu'r Post Brenhinol yn cyfarfod yng Nghaerdydd i drafod y cam nesa yn eu streic answyddogol. Mae'r anghydfod ynglýn a gweithwyr sy'n cael eu cyflogi dros gyfnod y Nadolig eisoes wedi para tridiau ac yn bygwth amharu ar y gwasanaeth dosbarthu yng Ngaherdydd. Ac mae gweithwyr post yng Ngogledd Iwerddon ar streic oherwydd anfodlonrwydd ynglýn â phatrymau gwaith newydd. Mae hyd at 500 o weithwyr mewn canolfannau dosbarthu yn Belfast a Newtonabbey ar streic wedi i drafodaethau fethu nos Iau.
Cyfle i rannu pensiwn O ddydd Gwener ymlaen, bydd cyplau sydd wedi ysgaru'n gallu rhannu'u pensiynau. Gobaith y llywodraeth ydy y bydd y drefn newydd yn golygu na fydd pobol sy'n ysgaru'n gorfod dibynnu ar ei gilydd ar ôl gwahanu. Ond yn ôl ymgynghorwyr ariannol, dylai unrhyw bensiwn ar y cyd fod werth o leia £100,000 cyn ei fod yn cael ei rannu'n ddau.
Pryder nad oes neb yn gyfrifol Yn ôl adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi ar sut yr oedd Coleg Gwent yn cael ei weinyddu, mae'n rhaid i awdurdodau'r coleg wneud mwy i ddatrys rhai o'r problemau. Mae Pwyllgor Cyfrifon y Cynulliad yn datgan yn yr adroddiad eu bod nhw'n siomedig nad oes unrhyw un wedi gorfod bod yn atebol ar ôl i'r coleg ddod yn agos at gau yn sgil trafferthion ariannol difrifol.
Arestio am beintio sloganau Mae dau o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi cael eu harestio yn oriau mân fore Gwener ar ôl i sloganau gael eu peintio ar siop ffôn symudol yng Nghaerdydd. Mae ymgyrch ddiweddara'r gymdeithas yn galw am ddeddf iaith newydd ac yn targedu siopau ffôn symudol y maen nhw'n honni sy'n cynnig gwasanaeth uniaith Saesneg.
Miss India yw Miss World Myfyrwraig 18 oed o India enillodd gystadleuaeth Miss World eleni. Priyanka Chopra oedd ffefryn y bwcis. Daeth merch o'r Eidal yn ail.
Lansio llong ofod Cafodd llong ofod Endeavour ei lansio o Cape Canaveral yn Florida fore Gwener. Gwaith yr Endeavour ydi cario paneli solar enfawr i'r orsaf ofod ryngwladol.
Colli llai o ddwr Yn ôl adroddiad gan Y Swyddfa Archwilio, mae cwmnïau dwr yng Nghymru a Lloegr wedi lleihau'n sylweddol y dwr sy'n gollwng o'u peipiau. Er hynny, mae 3m o fetrau ciwbig o ddwr yn dal i ollwng yn ddyddiol - cymaint â hanner llif dyddiol afon Tafwys yn Llundain.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw'u sedd Yn dilyn ymddiswyddiad Jenny Randerson oherwydd ei dyletswyddau yng nghabinet y Cynulliad, llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gadw'r sedd oedd ganddi ar Gyngor Caerdydd. David Rees enillodd is-etholiad Cyncoed.
Ysbyty plant gam yn nes Mae'r freuddwyd i gael ysbyty plant i Gymru yn dod gam yn nes wrth i'r ymddiriedolwyr lansio eu hapêl i godi arian ar y we. Y gobaith ydy agor rhan gynta yr ysbyty yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Eisoes mae'r apêl wedi codi £2m ond er mwyn agor rhan gynta'r ysbyty mae angen £3m - ac £21m i agor yr ysbyty yn llawn.
Chwilio am safle i oriel Mae Cyfarwyddwr yr Amgueddfa a'r Oriel Genedlaethol Michael Tooby yn Nhyddewi ddydd Gwener er mwyn darganfod safle addas i leoli oriel Graham Sutherland. Treuliodd yr arlunydd ran helaeth o'i oes yn Sir Benfro, ac ar ei farwolaeth rhoddodd ei waith yn anrheg i'r sir. Ond dydy'r dasg o ddod o hyd i gartref parhaol i'w ddarluniau heb fod yn hawdd.
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |