Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese


Adroddiad Iola Wyn BBC Cymru o'r Wyl
"Mi fydd yna chwe ffilm Gymreig eu naws yn yr Wyl"
 real 56k

Dydd Mercher, 29 Tachwedd, 2000, 18:18 GMT
Gwledd o ffilmiau yng Nghaerdydd
The Magician's House
The Magician's House gan y BBC sydd wedi ennill nifer o wobrau
Mae Gwyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru'n agor yng Nghaerdydd.

Yn ystod yr wythnos a hanner nesa' mi fydd dros 150 o ffilmiau'n cael eu dangos gydag amryw o gynhyrchiadau newydd o Gymru yn eu plith.

Mi fydd chwe ffilm Gymreig eu naws yn ymddangos yn yr Wyl Ffilmiau Ryngwladol eleni.

Camgymeriad Gwych gan y Cymro Marc Evans ydy'r ffilm sy'n agor yr wyl nos Fercher.

John Cale

Mae'r cynhyrchiad yn dilyn naw diwrnod ym mywyd yr arwr roc o'r Garwnant John Cale - ac mae nifer o fandiau pop o Gymru'n cyd-berfformio ag o yn y ffilm.

Mae'r wyl hefyd yn rhoi cyfle i gyfarwyddwyr ifainc i arddangos eu doniau am y tro cyntaf.

Mae'r ffilm Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw gan Euros Lyn yn cymharu ffordd o fyw yng nghefn gwlad a'r ddinas.

Ar ôl llwyddiant y ddrama OM, mi fydd y cyfarwyddwr Emlyn Williams yn cyflwyno'i ffilm ddiweddara Oed yr Addewid sy'n canolbwyntio ar berthynas dyn oedrannus gyda'i deulu.

Ar ôl i'r ffilmiau gael eu dangos dros yr wythnos a hanner nesa, mi fydd seremoni'n cael ei chynnal i wobrwyo ffilm mwya poblogaidd yr wyl.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.