![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Gwener, 24 Tachwedd, 2000, 10:11 GMT
Helpu rhai sy'n cael eu poeni gan stelcwyr
![]() Mi ddiflannodd Suzy Lamplugh tra'n gweithio fel gwerthwr tai
Mae ymgyrch newydd wedi dechrau yng Nghymru i helpu'r rhai sy'n cael eu poeni'n y gwaith gan stelcwyr.
Mae undeb y gweithwyr cyhoeddus Unsain wedi dod â rhai sydd wedi cael eu poeni gan stelcwyr, yr heddlu a gwleidyddion at ei gilydd i roi'r cyngor gorau ar sut i atal hyn. Ymysg y rhai sy'n cael eu poeni, mae 80% ohonyn nhw'n ferched. Mi fydd Tracey Morgan a sefydlodd rwydwaith i'w helpu yn sôn am ei phrofiadau erchyll hi wrth gynhadledd i ferched yng Nghaerdydd ddydd Gwener a gafodd ei threfnu gan Unsain. Stelcio am wyth mlynedd Mi fu i Mrs Morgan a'i gwr ddod yn gyfeillgar â dyn a aeth ati'n ddiweddarach i'w stelcio am wyth mlynedd. Mae o erbyn hyn wedi ei gael yn euog dan y ddeddf atal-stelcian - deddf a ddaeth i fodolaeth yn rhannol drwy ymdrechion Diana Lamplugh a sefydlodd Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh i ymgyrchu'n erbyn stelcwyr ac i greu cymdeithas mwy diogel. Mi ddiflannodd ei merch, Suzy, yn 1986 tra'n gweithio fel gwerthwr tai. Yn ôl un arall sydd wedi dioddef, Beti Phillips o Saron ger Rhydaman, mi gafodd ei stelcio gan ddyn ar y ffôn oedd yn gwybod am bob symudiad yr oedd hi'n ei wneud. Mae Unison yn bryderus bod stelcwyr erbyn hyn yn defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd i ddod o hyd i ac i boeni pobol.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |