Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Sadwrn, 24 Awst, 2002, 12:06 GMT
'Rhagfarn yn erbyn' merched anffrwythlon
Natallie Evans a Howard Johnson
Natallie Evans a'i chyn bartner Howard Johnson
Mae gwrthod caniatáu i ddwy ddynes gadw eu embryonau rhewedig yn tarfu ar eu hawliau dynol, medd cyfreithiwr sy'n eu cynrychioli.

Mi fydd Natalie Evans a Lorraine Hadley yn mynd i'r Uchel Lys i geisio atal eu cyn bartneriaid rhag dinistrio'r embryonau sydd wedi cael eu ffrwythloni.

Dywed cyfraith embryoneg bod rhaid i'r ddwy ochr gytuno i gadw a defnyddio embryonau.

Yn ôl y merched, gall eu hachos gael goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyplau sy'n derbyn triniaeth IVF.

Dywed eu cyfreithiwr bod yna ragfarn yn erbyn y merched oherwydd eu bod yn anffrwythlon ac yn gorfod cael triniaeth IVF.

Beichiogi'n naturiol

"Maen nhw'n dadlau ei bod annheg bod eu cyn bartneriaid yn gallu eu hatal, ond pe bydden nhw wedi beichiogi'n naturiol yna fyddai gan eu partneriaid ddim hawliau o gwbl ynglýn â'r embryonau yn eu cyrff," meddai.

Cafodd chwe embryo i Ms Evans, 30, o Trowbridge, eu cadw wedi iddi gael canser ofarďaidd.

Roedd hi a'i phartner wedi gobeithio cael plentyn o'r embryonau wedi'r driniaeth canser.

Ond daeth y berthynas i ben ac mae'r partner eisiau i'r clinig yng Nghaerfaddon ddinistrio'r embryonau.

Mae gan Ms Hadley o West Midland ddau embryo wedi'u cadw ac mae hi'n wynebu'r un sefyllfa.

"Pe byddai'r achos yma'n llwyddiannus mi fyddai'n tanseilio llawer o'r egwyddorion sy'n sail i Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg," meddai Ann Ferudi o Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.