|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 8 Mehefin, 2001, 08:48 GMT
Y Ceidwadwyr yn methu ym Mynwy
Roedd pawb ar bigau drain yng Nghwmbrân
Wedi ail-gyfri'r pleidleisiau ddwywaith, Huw Edwards gadwodd etholaeth Mynwy i Lafur, gan chwalu gobeithion y Ceidwadwyr i gael sedd yng Nghymru.
Er i Roger Evans ddal y sedd i'r Ceidwadwyr yn y gorffennol, methu wnaeth o'r tro hwn. Mr Evans oedd yr aelod hyd at 1991 pan gipiodd Huw Edwards hi i Lafur ond aeth hi'n ôl i Mr Evans yn 1992. Yn etholiad 1997 mi gipiodd Huw Edwards hi unwaith eto a phe bai'r Torïaid wedi gwneud yn well yn etholiad 2001, mae'n debyg mai Roger Evans fyddai'r aelod dros yr etholaeth. Ond nid felly y bu. Pethau'n agos Cafwyd yr awgrym cyntaf bod pethau'n agos tua hanner nos pan drefnodd Mr Evans gyfarfod â'i gydweithwyr yn Neuadd y Sir yng Nghwmbrân. Roedd y swyddogion wedi gobeithio cyhoeddi'r canlyniad am 2.30 ond doedd hyn ddim i fod. Dri o'r gloch fore Gwener cyhoeddwyd nad oedd yna fwyafrif a bod y ddau ymgeisydd wedi cytuno i gael ailgyfri. Ond doedden nhw ddim nes i'r lan a bu raid ailgyfri unwaith eto. Erbyn hyn roedd y cyfrifwyr yn flinedig a llawer yn mynnu y dylen nhw gael paned neu sigaret cyn ailddechrau â'r gwaith. Dryswch a dadlau Roedd yna ddryswch a dadlau ynglýn â phleidleisiau post pan gyhoeddwyd bod rhwng 40 a 100 mewn un etholaeth oedd wedi gofyn am gael pleidleisio drwy'r post heb dderbyn y ffurflenni. Roedd rhai wedi gallu pleidleisio yn eu gorsaf leol ac eraill wedi methu. Ond Huw Edwards oedd yn fuddugol ar y noson. "Mae hi wedi bod yn noson anodd," meddai. "Mae'r llwyddiant i gyd oherwydd ymdrech gweithwyr y blaid." Ond doedd Roger Evans ddim mor galonog. "Rwy'n siomedig iawn â'r canlyniad," meddai. "Pan wnaeth Llafur yn dda ymhobman, crafu drwodd wnaeth Mr Edwards yn yr etholaeth hon."
|
|||||||||||||