|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 8 Mehefin, 2001, 12:40 GMT
Hague yn ymddiswyddo fel arweinydd
Y dyfodol? William Hague yn ymddiswyddo
Mewn araith fore Gwener y tu allan i Bencadlys y Ceidwadwyr cyhoeddodd William Hague ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd ei blaid yn dilyn canlyniadau siomedig yn yr Etholiad Cyffredinol.
William Hague ydy arweinydd cynta y Blaid Geidwadol i beidio mynd i 10 Stryd Downing fel Prif Weinidog ers 1922. Dywedodd y byddai'n gadael arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol mor fuan ag y byddai olynydd wedi cael ei ddewis. "Does 'na'r un dyn yn angenrheidiol. Does yr un dyn yn fwy pwysig na'r blaid," meddai. "Mae'n hanfodol i arweinyddion i wrando ac i bleidiau newid. Ethol arweinydd newydd "Dwi'n credu ei fod yn hanfodol bod y blaid yn cael cyfle i ddewis arweinydd a all adeiladu ar yr hyn 'dwi wedi ei gyflawni, ond a fydd hefyd yn gallu mentro a gobeithio sicrhau mwy o gefnogaeth drwy'r wlad. "Oherwydd hyn, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol pan fydd olynydd yn gallu cael ei ethol a hynny yn ystod y misoedd nesaf. "Tan hynny fe fyddaf yn parhau gyda swyddogaeth Arweinydd yr Wrthblaid yn y Senedd a thu allan." Yn gynharach fe wnaeth Mr Hague longyfarch Tony Blair, drwy alwad ffôn, cyn mynd i gyfri yn ei etholaeth ei hun yn Richmond, Gogledd Efrog. 'Gwastaffu pedair blynedd' Wrth ymateb i gyhoeddiad dywedodd Rod Richards ei fod yn falch o weld ei gefn. "Wnaeth o ddim argraff ar y wlad yn gyffredinol, a wnaeth o ddim i helpu'r ymgyrch yng Nghyrmu, er bod ei wraig yn Gymraes. "Mae o wedi gwastraffu pedair blynedd. "Fe wnaeth o addewidion mawr, nad ydy o wedi eu cyflawni." Amgylchiadau anodd Ond maer Bill Hughes wedi dweud ei fod wedi gwneud gwaith da mewn amgylchiadau anodd. "Wedi trio newud y balid, ond y drwg ydy'r rhai sydd a cyllell yn ei gefn, yr rhai sydd wedi methu yn y gorffennol." Dywedodd David Davies, AC Mynwy, ei fod wedi gwnud swydd da, er ei bod wedi bod yn anodd iddo ar brydiau. Mae Syr Eric Howells, cyn-gadeirydd y Blaid yng Nghymru yn credu y dylai fod wedi pwyllo cyn gwneud y cyhoeddiad. "Mae o wedi gwneud yr un camgymeriad â John Major."
|
|||||||||||||