|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 8 Mehefin, 2001, 12:46 GMT
Buddugoliaeth ysgubol i Lafur
Mae Tony Blair yn dathlu ail dymor mewn llywodraeth
Mae'r Blaid Lafur wedi ennill buddugoliaeth fawr wrth sicrhau mwyafrif llethol dros y Blaid Geidwadol yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae Tony Blair, yr arweinydd Llafur cyntaf i gael ail dymor yn olynol, wedi dychwelyd i Downing Street ar ôl i'r etholiad greu canlyniad a oedd yn adlewyrchu llwyddiant ysgubol y blaid yn 1997.
Yn ddiweddach, wrth siarad yn ei etholaeth yn Swydd Efrog, lle y cafodd ei ail-ethol, dywedodd Mr Hague fod y canlyniadau drwy Brydain wedi bod yn "siom fawr" i'r Ceidwadwyr. Wrth dderbyn ei fuddugoliaeth yn ei etholaeth yn Sedgefield, dywedodd Mr Blair fod y Blaid Lafur wedi ennill ail dymor mewn llywodraeth yn olynol am y tro cyntaf yn ei hanes. "Mae'n beth rhyfeddol," meddai. Drwy Brydain, cafodd ei blaid lwyddiant digamsyniol wrth iddynt lwyddo i wrthsefyll ymgais y Torïaid i'w disodli. Ychydig o newid er 1997 Serch hynny, fe gafwyd y llwyddiant mewn etholiad lle bu'r nifer a bleidleisiodd yn is nag yn yr un etholiad ers 1918 gan ostwng 11% i ychydig yn llai na 60%. Mae'r nifer isel a bleidleisiodd yn sicr yn mynd i fod yn destun trafod yn yr wythnosau wedi'r etholiad. Yn etholiad cyffredinol 1997 roedd gan Lafur 418 o Aelodau Seneddol, roedd gan y Ceidwadwyr 165 a'r Democratiaid Rhyddfrydol 46. Eleni, yn gyffredinol, ychydig iawn o newid a fu ar batrwm y pleidleisiau a'r nifer o seddi a gafodd y pleidiau i gyd ar draws Prydain. Canlyniadau diddorol Serch hynny, bu rhai canlyniadau lleol arwyddocaol. Cafwyd tipyn o syndod pan lwyddodd y BNP i ennill dros 6,000 o bleidleisiau yn Oldham, lle digwyddodd y terfysgoedd rhwng llanciau croenwyn a rhai o dras Asiaidd yn ddiweddar. Yn St Helens, roedd y Blaid Lafur yn dathlu wrth i Shaun Woodward, y cyn-aelod seneddol Torïaidd a symudodd i'r Blaid Lafur, ennill y sedd. Lwyddodd dau wleidydd Llafur dadleuol i ddal eu seddi er gwaetha'r helyntion a ddaeth i'w rhan yn ddiweddar. Cadwodd Peter Mandelson ei sedd yn Hartlepool, a Keith Vaz ei sedd yn Dwyrain Caerlyr. Ond yn Wyre Forest llwyddodd yr ymgeisydd annibynnol Richard Taylor i drechu gweinidog y llywodraeth David Lock, a hynny fel rhan o ymgyrch i achub ysbyty lleol. Yn yr Alban, fe gollodd yr SNP un sedd wrth i'r Torïaid lwyddo i ennill troedle yn y wlad honno - un sedd yn fwy nag yn 1997. Ond mae Cymru yn parhau yn ddi-Dori. Daeth y Ceidwadwyr yn agos ym Mrycheiniog a Maesyfed ac ym Mynwy, ond heb lwyddo i ennill yr un sedd.
|
||||||||||||||