|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 8 Mehefin, 2001, 13:01 GMT
Plaid Cymru'n cipio Dwyrain Caerfyrddin
Plaid Cymru yn dathlu eu buddugoliaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Cipiodd Plaid Cymru Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y sedd y bu'n ei thargedu ers blynyddoedd.
Llwyddodd ymgeisydd y Blaid, Adam Price, i drechu'r cyn Aelod Seneddol Dr Alan Williams o 16,130 o bleidleisiau i 13,450. Bu gogwydd o 8% tuag at Blaid Cymru yn yr etholaeth. Roedd y fuddugoliaeth hon yn dipyn o gysur i Blaid Cymru wedi'r siom a gawson nhw yn Ynys Môn yn gynharach yn ystod y noson. Cysur ar ôl siom Fe gollodd y blaid sedd Ynys Môn wrth i Albert Owen ei chipio ar ran y Blaid Lafur. Roedd ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn gysur hefyd gan fod y blaid yn siomedig na lwyddodd i ennill sedd yng nghymoedd y de. Roedd wedi gobeithio cipio seddi fel Rhondda ac Islwyn, a gwympodd i'w dwylo adeg etholiadau'r Cynulliad ym 1999. Ond ni lwyddwyd i gyrraedd y penllanw hwnnw yn 2001 o bell ffordd. Roedd y fuddugoliaeth yng Nghaerfyrddin a Dinefwr yn arwyddocaol gan mai Caerfyrddin oedd y sedd gyntaf i Blaid Cymru ei hennill erioed a hynny yn 1966 pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd. Sedd bwysig Mae hi wedi bod yn sedd bwysig i'r cenedlaetholwyr Cymreig felly, ac fe ddaeth yn agos at wneud hynny yn 1997. Yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999, fe enillodd Plaid Cymru y sedd, ac fe roeddynt yn benderfynol o'i chipio yn etholiadau San Steffan hefyd. Fe wnaeth y Blaid Lafur ei gorau i sicrhau ei mwyafrif bregus o 3,500 yma. Roedd Llafur a Phlaid Cymru'n brwydro am yr un bleidlais sef pleidlais dosbarth gweithiol Dyffryn Aman. Hefyd roedd Plaid Cymru'n dibynnu ar bleidlais Dyffryn Tywi.
Yn ystod eu hymgyrch fe fanteisiodd Plaid Cymru ar fethiant Llafur i ymdrin â mater iawndal y glowyr yn effeithiol. Roedd hynny'n dân ar groen yr ymgeisydd Llafur ond mae'n ymddangos fod Plaid Cymru wedi elwa ar hyn. Roedd aelodau Plaid Cymru'n falch iawn pan glywson nhw'r canlyniad hwn felly gan ei fod yn golygu eu bod nhw'n dychwelyd pedwar Aelod Seneddol i San Steffan fel yn 1997 ac wedi cynyddu eu cyfran o'r bleidlais yng Nghymru yn gyffredinol. 'Buddugoliaeth hanesyddol Dywedodd yr Aelod Seneddol Newydd, Adam Price, fod y canlyniad yn "fuddugoliaeth hanesyddol" i'r blaid. "Fe enillon ni o ganlyniad i symudiad tuag atom yng nghymunedau'r cymoedd diwydiannol Gwendraeth ac Aman" meddai. "Dwi'n credu ein bod ni mewn sefyllfa gref i ffurfio mwyafrif yn etholiadau'r Cynulliad yn 2003". Roedd Ieuan Wyn Jones yn falch iawn bod y blaid wedi llwyddo yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Dywedodd fod colli Môn wedi bod yn ergyd bersonol iddo ac mai'r cyfanswm isel o bobol aeth i bleidleisio oedd i'w feio am hyn. Gwadu a wnaeth fod Plaid Cymru wedi canolbwyntio'n ormodol ar geisio ennill sedd ymylol Conwy. |
||||||||||||||