|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 1 Mawrth, 2002, 16:43 GMT
Llafur yn dathlu yn Ynys Môn
Datgan canlyniad annisgwyl Ynys Môn
Daeth ergyd i Blaid Cymru yn un o'i chadarnleoedd wrth i Lafur gipio Ynys Môn oddi arni.
Llwyddodd Albert Owen i ennill yr ynys i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 800. Mae'r sedd wedi bod yn nwylo Plaid Cymru ers 1987 pan ddaeth Ieuan Wyn Jones yn Aelod Seneddol. Ond fe benderfynodd ef beidio sefyll eleni er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y Cynulliad, ac mae'n debyg mai absenoldeb y bleidlais bersonol iddo ef a fu'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod Plaid Cymru wedi methu â dal gafael ar yr etholaeth. Llafur yn ôl ym Môn Roedd Albert Owen yn falch iawn o'i fuddugoliaeth. "Mae hi wedi bod yn frwydr hir ond mae Llafur wedi dod adref i Ynys Môn," meddai. A bu Glenys Kinnock, ASE, gwraig y cyn-arweinydd Llafur, ar ben ei digon wrth weld ei hynys enedigol yn llithro o ddwylo'r cenedlaetholwyr. Llwyddodd Mr Owen i ennill 11,906 o seddi gyda symudiad o 2% tuag at y Blaid Lafur. Roedd Plaid Cymru yn ail agos iawn a'r Ceidwadwyr yn y trydydd safle. Dywedodd Ieuan Wyn Jones: "Fe fu colli Môn yn ergyd bersonol". Etholaeth ymylol Mae Ynys Môn yn etholaeth ymylol ac ers yr Ail Ryfel Byd mae'r pedair prif blaid wedi ei dal. Hi yw'r unig etholaeth ym Mhrydain i fod yn eiddo i bedair o bleidiau gwahanol ers y rhyfel. Fe groesawodd Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, y canlyniad gan ddweud ei fod yn fuddugoliaeth bersonol i Albert Owen. Dywedodd serch hynny, nad oedd yn credu bod y canlyniad yn adlewyrchiad ar Ieuan Wyn Jones, sydd yn olynu Dafydd Wigley fel Llywydd Plaid Cymru. Clwy'r traed a genau Nid fu'r ymgyrch yn un hawdd i ymgeisydd Plaid Cymru, Eilian Williams, a bu rhaid iddo ymdrechu'n galed i geisio diogelu mwyafrif o 2,500. Mae'r etholaeth wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad i argyfwng clwy'r traed a'r genau a bu'n rhaid i nifer o ffermwyr yn yr etholaeth ddifa eu hanifieiliaid. Roedd nifer yn amau felly y byddai hyn yn effeithio ar y bleidlais Lafur, gan mai nhw sy'n ffurfio'r llywodraeth, ond honnodd Mr Williams mai yn erbyn ei bleidlais ef yr oedd y clwy wedi gweithio. Beth bynnag yw'r rheswm am fethiant Plaid Cymru, bydd y blaid yn sicr yn teimlo colled sedd a fu yn ei dwylo ers 1987.
|
|||||||||||||