Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle: 
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Adroddiad Nia Thomas, BBC Cymru
"Amddiffyn mwyafrif o 2,500"
 real 56k

Adroddiad Rebecca Jones, BBC Cymru
"Aelodau Plaid Cymru yng nghyn-etholaeth Dr Alan wedi cael eu plesio"
 real 28k

Garry Owen yn holi Dr Richard Wyn Jones
"Symbolaidd bwysig...colli hygrededd Ieuan Wyn Jones"
 real 56k

Adroddiad Eleri Morgan, BBC Cymru
"Canlyniadau Llafur yn eu cadarnleoedd"
 real 56k

Alun Thomas yn holi Ieuan Wyn Jones
"Gwneud yn arbennig o dda ar draws Cymru"
 real 56k

Adroddiad Alwen Williams, BBC Cymru
"Y sedd yn newid o Blaid Cymru i Lafur"
 real 28k

Llafur yn cadw eu gafael yn y sedd
Y datganiad ym Mynwy
 real 56k

Adroddiad Aled Huw, BBC Cymru
"Roedd y tensiwn i'w weld ar wyneb Dr Alan Williams"
 real 56k

Dydd Gwener, 8 Mehefin, 2001, 16:56 GMT
Dwy sedd Gymreig yn newid dwylo
Ymhen ychydig oriau fe fydd map gwleidyddol Cymru wedi newid
Mae map gwleidyddol Cymru wedi newid rywfaint
Mae dwy o seddi Cymru wedi newid dwylo gyda Llafur yn cipio Ynys Môn oddi ar Blaid Cymru tra bod Plaid Cymru wedi ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oddi ar Lafur.

Ynys Môn oedd y sedd gyntaf ym Mhrydain i newid dwylo wrth i Blaid Cymru golli gafael ar y sedd mae wedi ei dal ers 1987.

Collodd y Dr Alan Williams ei sedd i Blaid Cymru
Collodd y Dr Alan Williams ei sedd i Blaid Cymru
Albert Owen o'r Blaid Lafur enillodd gyda 11,906 o bleidleisiau, gydag Eilian Williams o Blaid Cymru yn ail gyda 11,106.

Mr Owen yw'r Aelod Seneddol Llafur cyntaf ar yr ynys ers yr Arglwydd Cledwyn.

Ond bu'r canlyniad yn siom aruthrol i Blaid Cymru wrth iddi golli un o'i chadarnleoedd, ac eisoes mae Eilian Williams wedi dweud ei fod yn ystyried herio'r canlyniad oherwydd y dryswch a fu dros bleidleisiau post yn yr etholaeth.

Cafodd siom y Blaid ei lleddfu wrth i Adam Price wireddu breuddwyd y Blaid ers blynyddoedd drwy gipio sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oddi ar Dr Alan Williams, a hynny o 2,590 o bleidleisiau.

Gweddill Cymru

Ond yng ngweddill Cymru, ni bu newidiadau.

Cadwodd Llafur eu holl seddi eraill, wrth i Blaid Cymru gadw Meirionnydd Nant Conwy, Ceredigion a Chaernarfon, ac fe gadwodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu dwy sedd yn Sir Drefaldwyn a Brycheiniog a Chaerfyrddin.

Mae Cymru yn parhau yn wlad ddi-Dori, wrth i'r Blaid Geidwadol fethu ag ennill yr un sedd, er iddynt ddod o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau ym Mrycheiniog a Maesyfed ac ym Mynwy, lle cafodd y pleidleisiau eu hail-gyfrif ddwywaith.

Cynyddodd pleidlais Plaid Cymru mewn llawer o etholaethau yn y de, yn enwedig yn Llanelli, ond ni ddaeth yn agos at ennill y seddi yn y Cymoedd y bu yn ei llygadu yn ystod yr ymgyrch, sef Caerffili, y Rhondda ac Islwyn.

Un o ryfeddodau'r noson oedd y modd y daliodd y bleidlais Lafur i fyny yn gryf mewn etholaethau nad ydynt yn diriogaeth Lafur naturiol, megis Gorllewin Clwyd a Bro Morgannwg, lle llwyddwyd i drechu bygythiad y Ceidwadwyr.

Yng Nghanol Caerdydd, fe fu siom i'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth i'r Blaid Lafur ddal ei gafael ar y sedd. Daeth y Democrat Rhyddfrydol o fewn 659 o bleidleisiau i ddisodli Jon Owen Jones mewn sedd y bu gobaith gan y blaid ei chipio.

Yng Ngorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, cyn-gynghorydd i Brif Weinidog y Cynulliad, a ddaliodd afael ar sedd ei gyn-gyflogwr, sydd wedi sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y Cynulliad.