|
||||||
| Dyma safle: | ||||||||||||
|
Dydd Iau, 7 Mehefin, 2001, 09:48 GMT
Bwrw pleidlais mewn tafarn a siop
Mae pobol Cymru'n pleidleisio mewn lleoedd amrywiol ar hyd a lled Cymru
Fe fydd pobol ar hyd a lled Cymru'n pleidleisio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys archfarchnad a thafarn leol.
Yn draddodiadol mewn ysgolion lleol neu neuaddau pentref yr oedd pobol yn pleidleisio. Ond mae pethau wedi newid tipyn yn ystod y blynyddoedd diweddar ac mae nifer fawr eisoes wedi pleidleisio drwy'r post gan fod y rheolau wedi eu llacio dipyn eleni. Er mwyn ceisio denu pobol allan i bleidleisio mae'r llywodraeth wedi troi at ddulliau newydd. Am y tro cyntaf fe fydd siopwyr yn archfarchnad Tesco ar gyrion Caerdydd yn cael pleidleisio wrth iddyn nhw grwydro o amgylch y siop. Dyma arbrawf newydd sydd wedi'i drefnu gan y Comisiwn Etholiadol. Wedi'r etholiad fe fydd y comisiwn yn archwilio dulliau newydd o bleidleisio gan gynnwys pleidleisio dros y rhyngrwyd. Bydd rhai etholwyr yn cael pleidleisio yn eu tafarn leol hyd yn oed. Tafarn Mae 143 o etholwyr ar restr Maldwyn a fydd yn pleidleisio yn Nhafern Dwynant ym mhentref Ceinws yng nghanolbarth Cymru. Er bod Cymru'n enwog am gadw at draddodiad dywedodd Nerina Davies o Gyngor Sir Powys: "Dydw i ddim wedi clywed am neb sy'n gwrthwynebu pleidleisio mewn tafarn." Dywedodd bod Tafern Dwynant yn dafarn "cymunedol" sy'n cynnwys y siop leol a'r swyddfa bost yn ogystal. Mae defnyddio'r dafarn yn gwneud pleidleisio'n fwy cyfleus i etholwyr gwledig. Fel arall fe fydden nhw'n gorfod teithio tipyn ac fe fyddai hynny'n atal rhai fel yr henoed rhag pleidleisio. Dywedodd Ms Davies fod perchenog y dafarn, Norah Richards, yn mynd i ddarparu digon o dê i staff yr orsaf bleidleisio, ond ni fyddan nhw'n cael dim alcohol. Ymysg y lleoedd anarferol eraill mae canolfan gelf a chrefft yn Abertawe a charafan ym Medwas ger Caerffili. A bydd tua 80 o drigolion Bedwellte ger Tredegar yn pleidleisio mewn ystafell mewn bwthyn yn y pentref. Mae'r bwthyn wedi ei osod i weithredu fel gorsaf bleidleisio i'r gymuned.
|
|||||||||||