|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||
|
Dydd Mercher, 6 Mehefin, 2001, 13:46 GMT
Effaith datganoli ar yr ymgyrch yng Nghymru
Bellach mae'r ymgyrchu ar ben yn yr etholiad cyffredinol cyntaf wedi datganoli.
Mae'n debyg mai difaterwch fydd y prif fygythiad i'r pleidiau i gyd gan nad yw'r etholwyr wedi dangos llawer o ddiddordeb yn yr ymgyrch. Ar wahân i helynt John Prescott does yna fawr o ddim wedi digwydd i gyffroi'r cyhoedd. Ond yng Nghymru mae yna un ffactor bwysig sef datganoli. Cynulliad Mae sefydlu'r Cynulliad Cymreig yn golygu bod yn rhaid i'r etholwyr ystyried nifer o agweddau wrth iddyn nhw fynd i'r orsaf bleidleisio ddydd Iau.
O fewn y Cynulliad ei hun fe fydd y Llywydd Dafydd Elis-Thomas yn cadw trefn ar y gwleidyddion anystywallt. Ond y tu allan i'r siambr mae pob dim wedi bod yn bosib. Mae aelodau'r Cynulliad wedi ymuno yn yr ymgyrch etholiadol ac wedi bod yn ymgyrchu'n frwdfrydig iawn. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn clymblaid ac ar sawl achlysur yn ystod yr ymgyrch mae hyn wedi creu tipyn o broblem iddyn nhw yn arbennig yn eu cadarnleoedd. Etholiad Prydeinig Mae'r pleidiau i gyd yn cymryd y clod am lwyddiannau'r Cynulliad, yn arbennig y ffaith bod Comisiynydd Plant wedi ei benodi i Gymru. Ond etholiad ar lefel Brydeinig yw hon ac er bod mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru bellach ynglyn â sut y gweithredir yr ymgyrch yn sicr mae tensiynau wedi dod i'r wyneb. Hefyd mae nifer o gwestiynau wedi codi ynglyn â'r ffaith bod gwleidyddion yn addo pethau yn eu maniffestos na allan nhw eu gwireddu gan mai gan y Cynulliad Cenedlaethol y mae'r grymoedd. Wrth gwrs fe fydd y cwestiynau gwleidyddol allweddol hynny yn cael eu gofyn cyn i'r etholwyr gamu i'r gorsafoedd pleidleisio: Pwy ydach chi eisiau fel Prif Weinidog? Faint o arian ydych chi am ei wario ar wasanaethau cyhoeddus? Clymblaid Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn pwysleisio eu llwyddiant yng nghlymblaid y Cynulliad. Maen debyg bod eu rôl nhw yn y glymblaid wedi bod o fantais wrth iddyn nhw geisio ennill seddi fel Canol Caerdydd. Ond mae eu cysylltiad agos â Llafur wedi bod yn rhwystr iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio cadw sedd wledig Brycheiniog a Maesyfed. Mae'r Ceidwadwyr wedyn wedi bod yn ymgyrchu'n galed i geisio ennill cynrychiolaeth o Gymru wedi iddyn nhw fethu ag ennill sedd yma yn 1997. Yn ystod eu cynhadledd wanwyn fe welwyd arwydd clir eu bod nhw'n troi eu golygon tuag at sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Ceidwadwyr yn gobeithio ennill seddi Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn gobeithio ennill seddi Gorllewin Clwyd a Mynwy. Wedi etholiad 1997 roedd 34 o'r 40 sedd yng Nghymru yn nwylo'r Blaid Lafur ac maen nhw wedi bod yn ymgyrchu'n ddyfal i geisio cadw'r seddi hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ennill seddi newydd. Ond mae nifer o gefnogwyr y blaid yng Nghymru wedi ei beirniadu oherwydd yr holl swyddi a gollwyd yn y diwydiant dur, argyfwng clwy'r traed a genau a'r ffordd y maen nhw wedi delio â iawndal y glowyr. Mae'r blaid yn poeni'n arw y bydd cefnogwyr ei chadarnleoedd yn dangos yn glir eu bod nhw wedi eu dadrithio drwy aros gartref. Fe all difaterwch brofi'n elyn creulon iawn i Lafur ar y diwrnod mawr. Daeargryn gwleidyddol Mae yna fygythiad arall i Lafur yng nghymoedd de Cymru hefyd sef Plaid Cymru. Dychrynwyd Llafur yn etholiadau'r Cynulliad pan lwyddodd Plaid Cymru i ennill seddi allweddol yng nghymoedd y de fel Rhondda ac Islwyn. Pe bai Plaid Cymru'n llwyddo yn y seddi hyn eto ddydd Iau yna fe fyddai yna wir ddaeargryn gwleidyddol yng Nghymru ac fe fyddai ei effaith i'w deimlo yn San Steffan. Ar hyn o bryd pedair sedd sydd gan y blaid a'r tro hwn maen nhw'n gobeithio ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a chynyddu eu cyfran o'r bleidlais ym Mhrydain.
|
||||||||||||