Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle: 
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Iau, 7 Mehefin, 2001, 07:16 GMT
Pam pleidleisio ar ddydd Iau?
Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd, dydd Iau 7 Mehefin.

Ond pam fod etholiadau ym Mhrydain bob tro'n cael eu cynnal ar ddydd Iau?

Does dim deddf yn nodi bod yn rhaid i Brydain gynnal etholiadau ar ddydd Iau.

Dim ond confensiwn yw hyn mewn gwirionedd.

Nid oes yr un etholiad wedi ei chynnal ar ddiwrnod arall ers 1931 pan gynhaliwyd yr etholiad ar ddydd Mawrth.

Dyma rai ffeithiau am etholiadau cyffredinol:

Mae'r etholiad eleni yn gosod mis Mehefin yn un o'r ddau fis mwyaf poblogaidd ar gyfer cynnal etholiadau cyffredinol ers yr Ail Ryfel Byd.

O'r 15 etholiad sydd wedi eu cynnal ers 1945, mae pedwar wedi eu cynnal ym mis Mehefin (1970, 1983, 1987 a 2001) a phedwar ym mis Hydref (1951, 1959, 1964 a 1974).

Tywydd

Mae ymchwil yn dangos nad yw'r tywydd yn effeithio dim ar bleidleiswyr.

Mae'r tywydd ar ddydd yr etholiad wedi amrywio dros y blynyddoedd.

Yn 1964 roedd hi'n glawio'n drwm ymhobman bron ac roedd yna law mewn mannau ym mis Chwefror 1974 hefyd yn arbennig yn ne-orllewin Lloegr.

Ond yn ystod y blynyddoedd diweddar mae hi wedi bod yn sych a heulog ar y diwrnod mawr yn arbennig yn 1992 a 1997.

Gohirio

Ychydig iawn o bobol a fyddai wedi meddwl mai ym mis Mehefin y byddai'r etholiad wedi ei chynnal eleni.

Cafodd etholiad eleni ei gohirio oherwydd y clwy traed a genau
Roedd pawb yn disgwyl mai ar 3 Mai y byddai'r etholiad yn cael ei chynnal, ond bu'n rhaid ei gohirio oherwydd argyfwng clwy'r traed a genau.

Ond nid llywodraeth Tony Blair yw'r cyntaf i ohirio diwrnod pleidleisio.

Yn 1964 roedd pawb yn disgwyl y byddai Syr Alec Douglas Home yn galw etholiad yn ystod y gwanwyn y flwyddyn honno.

Ond wedi i'r Ceidwadwyr golli sedd Rutherglen mewn is-etholiad ym mis Mai fe ohiriodd yr etholiad tan fis Hydref.

Yn 1974 roedd disgwyl y byddai Ted Heath yn galw etholiad ar 7 Chwefror ar ddechrau streic y glowyr a'r wythnos dri diwrnod.

Clymblaid

Ond penderfynodd ohirio'r etholiad hyd 28 Chwefror ac fe gollodd yr etholiad honno.

Disgwylid i James Callaghan alw etholiad yn ystod yr Hydref yn 1978 wedi i'r cytundeb Lib-Lab ddymchwel ar ôl i 13 ASau Rhyddfrydol dynnu eu cefnogaeth.

Ond penderfynodd alw'r etholiad ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol wedi iddo golli mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn dilyn y cyfnod o streiciau diwydiannol.

Yn ystod cyfnod John Major roedd nifer yn credu y byddai ef yn galw etholiad yn 1991.

Ond wedi i'r Ceidwadwyr golli mewn cyfres o is-etholiadau penderfynodd aros a galw'r etholiad ym mis Ebrill 1992 gan ddadlau y byddai cynnal yr etholiad yn 1991 wedi bod yn 'anfoesol' o ganlyniad i Ryfel y Gwlff.

Datganoli

Yn anarferol iawn dyma'r pedwerydd tro i boblogaeth Cymru fynd i'r gorsafoedd pleidleisio ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Cafwyd refferendwm ar ddatganoli yn 1997, etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai 1999 a Mehefin 1999.

Dim ond un is-etholiad sydd wedi bod yng Nghymru ers 1997 sef is-etholiad Ceredigion a gynhaliwyd yn mis Chwefror 2000.

Ers yr Ail Ryfel Byd mae tua 75% o'r boblogaeth yn pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.

Er bod gwleidyddion yn poeni'n barhaus am ddifaterwch ymhlith y boblogaeth dim ond yn 1970 a 1983 yr oedd cyafnswm y rhai a bleidleisiodd o dan 75%.