|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||||
![]()
|
Dydd Llun, 4 Mehefin, 2001, 14:20 GMT
Pleidleisiau post yn creu problemau
Mae'r newid yn y system pleidleisiau pôst wedi creu llawer o broblemau
Mae amheuon wedi codi ynglyn â'r rheolau newydd ynglyn â phleidleisio drwy'r post.
Dangosodd ymchwiliad gan y BBC fod yna ddiffygion mawr yn y system a'i bod hi'n llawer haws twyllo eleni. Defnyddiodd gohebydd o'r rhaglen 'Today', a ddarlledir ar Radio 4, enwau pobol oedd wedi marw i ennill saith pleidlais yn etholaeth ymylol Torbay yn Nyfnaint. Amcangyfrifir y bydd hyd at 20% o bobol Prydain yn pleidleisio drwy'r post eleni ac felly mae nifer yn pryderu beth fydd effaith y diffygion sydd yn y system ar y canlyniadau. Yn y cyfamser, yng Nghymru, mae cyn lywydd Plaid Cymru wedi datgan ei fod yn credu fod "cynllwyn bwriadol" yn digwydd sy'n ecsploetio diffygion y system bleidleisio trwy'r post.
Rhybuddiodd Dafydd Wigley fod pwysau'n cael ei roi ar etholwyr. Gwrthododd enwi'r etholaeth yr oedd y wraig yn byw ynddi na'r blaid oedd yn ymwneud â'r digwyddiad ond cadarnhaodd mai yng Nghymru y digwyddodd hyn. Papaurau anghywir Ar hyd a lled Cymru mae nifer o etholwyr wedi cwyno eu bod wedi derbyn y papurau pleidleisio anghywir. Derbyniodd nifer o etholwyr Canol Caerdydd bapurau ar gyfer etholaeth De Caerdydd a Phenarth. Derbyniodd un o gefnogwyr Plaid Cymru bapur ar gyfer De Caerdydd er ei fod yn byw yng Nghanol Caerdydd. Fe fydd ef yn gadael Caerdydd nos Lun a phe bai'n defnyddio'r papur anghywir gallai fod yn torri'r gyfraith. Hefyd ni fyddai'n gallu pleidleisio i'r ymgeisydd cywir ac felly ni fyddai ei bleidlais yn cyfri. Dywedodd Terry O'Neill, Asiant Etholiadol Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd, ei fod yn anfodlon iawn â'r newid yn y gyfraith.
"Yn y gorffennol roedd pleidleisiau post yn cael eu hagor ar amser penodol ac ym mhresenoldeb cynrychiolwyr o bob un o'r pleidiau. "Nawr fe fydd hi'n anodd penderfynu dilysrwydd y pleidleisiau." Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn poeni am yr helynt ynglyn â phleidleisiau pôst. Mae Jenny Willott, ymgeisydd y blaid yng Nghanol Caerdydd, wedi galw am weithredu brys i ddelio â'r sefyllfa. Cwynion Mae'r system newydd wedi creu problemau yn Ynys Môn hefyd. Fore dydd Llun derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn gwynion gan bobol nad oedden nhw wedi derbyn eu ffurflenni pleidleisio eto. Mae 2,400 o bobol yr ynys wedi gwneud cais am bleidleisiau post ac mae nifer ohonyn nhw'n poeni na fyddan nhw'n gallu pleidleisio mewn pryd am nad ydyn nhw wedi derbyn y ffurflenni. Dywedodd y Post Brenhinol nad yw'r streiciau diweddar wedi effeithio ar hyn o gwbwl nac wedi creu unrhyw oedi. Mae'r cyngor yn honni fod y ffurflenni wedi eu postio ar 30 Mai.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||||