|
||||||
| Dyma safle: | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Gwener, 8 Chwefror, 2002, 13:57 GMT
Prinder ymgeiswyr ethnig
Yn nyddiau olaf yr ymgyrch etholiadol mae pob un o'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi cael eu beirniadu am fethu â denu ymgeiswyr Asiaidd a chroenddu i sefyll ar eu rhan yn yr etholiad.
Mae cynrychiolwyr rhai o gymunedau ethnig Cymru yn dweud bod y gwleidyddion wedi methu â'u gwasanaethu oherwydd eu bod wedi methu denu ymgeiswyr o'u plith i sefyll yn etholiad eleni. Mae Ali Miraj yn unigryw, ef yw'r ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Aberafan, a'r unig ymgeisydd o dras Asiaidd trwy Gymru. Yn ardal Trebiwt, Caerdydd, mae Yvonne Scott yn ddirprwy brifathrawes yn Ysgol Gynradd Mount Stuart. Dyma ysgol sydd â disgyblion o sawl cymuned wahanol. Yn eu barn hi, dydi'r holl ymgyrchu etholiadol ddim yn berthnasol i bobol yr ardal honno. Y broblem fwya meddai yw bod pobl Trebiwt yn teimlo fel bod y gwleidyddion wedi anghofio amdanyn nhw. Mae Shehzad Malik yn fyfyriwr yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae ef yn honni nad y gwleidyddion a'r pleidiau yn unig sydd ar fai am ddiffyg cynrychiolaeth y lleiafrifoedd ethnig yn etholiadau Cymru. Pleidiau Ond mae'r pleidiau eu hunain yn cydnabod bod yn rhaid i bethau wella. Dywedodd y Ceidwadwyr wrth BBC Cymru eu bod yn awyddus i ddenu rhagor o ymgeiswyr o'r cymunedau ethnig. Dywed Plaid Cymru eu bod nhw'n gweithio gydag arweinwyr y cymunedau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod wedi ceisio denu ymgeiswyr o'r lleiafrifoedd ethnig i sefyll yng Nghymru, ond eu bod wedi methu. Mae'r Blaid Lafur wedyn yn honni bod y ffaith nad oes na aelodau croenddu neu Asiaidd yn y Cynulliad yn brawf fod yn rhaid i bob plaid weithio'n galed i ennyn diddordeb pobol o'r lleiafrifoedd ethnig.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||