Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Sadwrn, 2 Mehefin, 2001, 14:08 GMT
Llafur: Pleidlais i Blaid Cymru'n 'wastaff amser'
Blwch
Bydd mwyafrif mawr i Tony Blair yn rhoi rhwydd hynt iddo breifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd, meddai Plaid Cymru
Ar benwythnos ola ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol mae Plaid Lafur Cymru wedi dadorchuddio poster sy'n honni y bydd pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais wastraffus.

Ond mae Plaid Cymru wedi taro'n ôl trwy ddweud bod hyn yn gyfraniad pitw at yr ymgyrch ac yn sarhad ar yr etholwyr.

Mae poster diweddara Llafur yn cael ei arddangos ar gefn lori sbwriel ac yn cael ei gludo ar hyd a lled y Cymoedd a'r Gorllewin.

Mae'r blaid yn honni y bydd pleidlais i Blaid Cymru'n wastraff am y bydd yn golygu mwy o gynrychiolaeth i'r Ceidwadwyr yn San Steffan.

'Dwyn sarhad'

Bore Sadwrn ymateb Plaid Cymru oedd dweud fod tacteg y Blaid Lafur yn dwyn sarhad ar etholwyr y De.

Maen nhw'n honni y bydd mwyafrif mawr i Tony Blair yn yr etholiad yn rhoi rhwydd hynt iddo yn y Senedd i breifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd ac addysg.

Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ymgyrchu yn Nhonypandy yn y Rhondda tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn canolbwyntio ar eu seddi targed ym Mrycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.