|
||||||
| Dyma safle: Newyddion: Etholiad2001 | ||||||||||||
|
Dydd Iau, 31 Mai, 2001, 09:09 GMT
Etholiad y ffôn symudol
Mae un o ymgeiswyr y Ceidwadwyr mewn etholaeth wledig yng ngorllewin Cymru yn defnyddio'r ffôn symudol i geisio perswadio pleidleiswyr.
Mae Robert Wilson yn anfon negeseuon ysgrifenedig ar ei ffôn i etholwyr i'w hannog i bleidleisio iddo. Mae Robert Wilson yn ymgeisio am sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Enillwyd y sedd hon gan Nick Ainger o'r Blaid Lafur yn etholiad 1997 gyda mwyafrif o dros 9,000. Ond bryd hynny roedd y Ceidwadwyr yn yr ail safle. Y tro hwn mae Mr Wilson yn disgwyl iddi fod yn gystadleuaeth agos rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Ar hyn o bryd mae wrthi'n casglu rhifau ffôn symudol er mwyn targedu pobol nad ydyn nhw wedi penderfynu eto i bwy y byddan nhw'n pleidleisio. Perswadio Yn bennaf fe fydd yn targedu pobol sy'n byw ygn nghyrion yr etholaeth sef ardal ddiwydiannol Doc Penfro a Dinbych y Pysgod. Dyma lle mae'r cyfanswm mwyaf o gefnogwyr Ceidwadwol yn yr etholaeth a bwriad Robert Wilson wrth yrru ei negeseuon yw y bydd hyn yn eu hatgoffa i fynd allan i bleidleisio. Mae Mr Wilson yn gyfarwyddwr cwmni ffôn symudol. Dywedodd: "Mae llawer iawn o ddifaterwch i'w weld yn yr etholiad hon. Mae pobol yn gwneud penderfyniadau munud olaf am eu tueddiadau pleidleisio ac os ydyn nhw am bleidleisio o gwbwl." "Mae gan y rhan fwyaf o bobol ffôn symudol, ac felly drwy wneud hyn fe allwn ni gysylltu â phleidleiswyr ymhobman yn yr etholaeth wledig fawr hon." Y prif fwriad yw atgoffa pleidleiswyr i fynd i'r orsaf bleidleisio. Dywed Mr Wilson: "Mewn brwydr agos fel fydd yn yr etholaeth hon, dwi'n credu mai'r dechnoleg hon fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli." Gofynir i bawb sy'n ymweld â gwefan Robert Wilson i gofrestru a gadael rhif eu ffôn symudol. Hefyd wrth ganfsio o ddrws i ddrws mae Mr Wilson a'i gefnogwyr yn gofyn am rifau ffôn symudol pobol. Dywedodd fod miloedd o bobol wedi cofrestru hyd yn hyn. Ond cyfaddefodd fod rhai nad ydyn nhw wedi penderfynu yn amharod i adael eu rhif, ac nad oes gan y mwyafrif o bobol dros 65 oed ffôn symudol. |
|||||||||||