Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Llun, 28 Mai, 2001, 10:57 GMT
Y Bleidlais Lwyd
Mae'r prif bleidiau i gyd yn addo tipyn i'r pensiynwyr yn eu maniffestos etholiadol eleni.

Mewn gwirionedd mae hyn yn rywbeth annisgwyl gan fod pleidiau fel arfer yn ceisio pwysleisio elfennau economiadd adeg etholiad cyffredinol.

Mae Llafur wedi datgan y byddan nhw'n gwario £4.5bn ychwanegol ar bensiynwyr.

Mae'r Ceidwadwyr yn addo £1bn-2bn y flwyddyn yn ychwanegol drwy "dorri trethi penodol".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld £4bn y flwyddyn yn cael ei wario ar yr henoed.

Pam fod y pleidiau i gyd yn ymdrechu mor galed i ennill y bleidlais lwyd felly?

Mae'r henoed yn garfan fawr o fewn yr etholaeth gan fod tua 1/3 o'r etholwyr yn bensiynwyr.



Hefyd dyma garfan sy'n debygol o bleidleisio, maen nhw'n llawer mwy tebygol na'r genhedlaeth ifanc.

Mae'r nifer o bensiynwyr yng Nghymru ar gynnydd ac mae nifer yn dadlau nad yw'r trefnidadau presennol yn ddigon i gynnal y boblogaeth hyn.

Yn eu maniffesto nhw mae Llafur yn cyfeirio at y pensiynwyr yn llawer amlach nag y gwnaethon nhw yn 1997.

Dydi hyn ddim yn syndod o gofio fod nifer o bensiynwyr wedi protestio yng nghynhadledd y blaid y llynedd yn erbyn y cynnydd o 75c mewn pensiwn.

Roedden nhw am weld cynnydd llawer mwy mewn pensiynau.

Yn ei gyllideb eleni datganodd Gordon Brown y byddai'n codi'r pensiwn sylfaenol gan gyflwyno cynnydd o £5 yr wythnos i berson sengl a £8 i gwpwl priod.

Addewidion

Mae Llafur hefyd yn addo cynyddu pensiynau ymhellach pe baen nhw'n cael eu hail ethol a chynyddu'r arian sy'n cael ei roi i'r henoed i dalu am danwydd yn ystod y gaeaf.

Ond er gwaetha'r cynlluniau hyn fe fydd pensiwn sylfaenol yn dal i fod 7% yn llai na chyflogau ar gyfartaledd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am ddiwygio radical ar y sector pensiynau ac maen nhw'n addo mwy o arian i'r henoed.

Mae'r blaid wedi gawl am breifateiddio rhan o'r system bensiynau gan roi cyfle i bobol ifanc beidio talu Yswiriant Cenedlaethol ac yn lle hynny cynnilo eu harian ar gyfer eu pensiwn personol eu hunain.

Beirniadodd Llafur y cynllun hwn gan ddadlau y byddai'n costio £6bn y flwyddyn.

Yn eu maniffesto hefyd mae'r Ceidwadwyr yn addo cynyddu pensiynau gan roi £1 yr wythnos yn ychwanegol i bensiynwyr hyn a £2 i gyplau.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall yn honni mai dim ond y nhw all sicrhau dyfodol pensiwn y wlad.



Fe fydden nhw'n ei gynyddu gan roi £5 yr wythnos yn ychwanegol i'r henoed , £10 ychwanegol i'r rhai sydd dros 75 oed, a £15 ychwanegol i'r rhai dros 85.

Byddai'r cynllun hwn yn costio bron i £3bn y flwyddyn ac mae nifer wedi beriniadu'r blaid gan mai dim ond £200m fyddai'n ei wario ar dlodi plant.

Hefyd maen nhw am i'r llywodraeth dalu costau gofal tymor hir i'r henoed sy'n gorfod mynd i gartrefi henoed.

Byddai Plaid Cymru yn ail greu'r cysylltiad rhwng pensiynau a chyflogau a gafodd ei ddiddymu gan y Ceidwadwyr yn 1980.

Maen nhw'n dadlau fod y gostyngiad parhaus mewn pensiynau o'i gymharu ag incymau wedi effeithio'n sylweddol ar Gymru.

Mae gan Gymru lefel uwch o bensiynwyr na gweddill Prydain.

Byddai Plaid Cymru'n sicrhau fod pensiynau ar gael i bawb.

Yn ôl Plaid Cymru mae arolygon yn dangos fod tri o bob pum pensiynwr yng Nghymru yn byw dan lefel tlodi.

Mae'r blaid hefyd am i'r llywodraeth dalu am ofal i'r henoed mewn cartrefi henoed.