Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Iau, 10 Mai, 2001, 16:04 GMT
Ai lwc yn unig oedd 1999?
Adroddiad Rhun ap Iorwerth, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Ar hyn o bryd mae Plaid Cymru'n gryf iawn yn nhermau cynrhychiolaeth mewn llywodraeth leol, yn y Cynulliad, San Steffan a Senedd Ewrop.

Ond mae'r blaid yn dal i ymdrechu i gynyddu ei hapÍl ac ennill cefnogwyr y tu allan i'w chadarnleoedd.

Mae'r sialens hon yn creu dipyn o broblem i'r arweinyddiaeth - sut i ennill cefnogwyr newydd heb ynysu'r cefnogwyr traddodiadol.

Mae ceisio cadw'r cyd-bwysedd yn anodd.

Denu pleidleiswyr newydd

Mae'n rhaid i'r blaid geisio ymddangos yn gymhedrol ar faterion fel yr iaith a'r cyfansoddiad er mwyn ceisio denu pleidleiswyr newydd.

Ar yr un pryd mae'n rhaid iddi sicrhau cefnogwyr ei chadarnleoedd nad yw wedi anghofio ei hegwyddorion traddodiadol.

Mae helynt Seimon Glyn, cynghorydd y Blaid yng Ngwynedd, wedi profi mor anodd yw cynnal y cyd-bwysedd.



Fe wnaeth Mr Glyn sylwdadau dadleuol am fewnfudo i gymunedau Cymraeg.

Yn sicr roedd y gefnogaeth yn gryf i'r Cynghorydd o Wynedd yng nghadarnleoedd y blaid.

Felly er gwaetha'r feirniadaeth chwyrn gan y pleidiau gwleidyddol eraill, ni allai Ieuan Wyn Jones ei ddisgyblu.

Roedd yn rhaid i Mr Jones, Llywydd newydd y Blaid, felly argyhoeddi'r pleidiau nad ydy Plaid Cymru'n blaid hiliol a gwrth-Seisnig.

Mae Plaid Cymru wedi dod yn blaid gryf iawn yn ddiweddar.

Gwir gwrthblaid yng Nghymru

Dyma blaid a fu'n aros am 40 mlynedd cyn ennill ei sedd gyntaf yn San Steffan.

Erbyn 1992 roedd ganddi bedwar Aelod Seneddol a 9% o'r bleidlais.

Yna yn 1999 llwyddodd y blaid i ddod yn wir wrthblaid yng Nghymru.

Yn etholiadau'r Cynulliad fe bleidleisiodd bron i 1/3 y pleidleiswyr i Blaid Cymru a llwyddodd y blaid i ennill 17 o'r 60 o seddi.

Yn yr un flwyddyn fe enillon nhw 30% o'r bleidlais yn etholiadau Ewrop ac fe etholwyd dau aelod o'r blaid i Senedd Ewrop.

Hefyd fe enillon nhw reolaeth dri awdurdod lleol.

Yn 1999 hefyd fe lwyddodd y blaid i dorri tir newydd yn ddaearyddol.

Cadarnleodd Llafur

Cyn hynny roedd ei haelodau seneddol i gyd wedi dod o ardaloedd Cymraeg, hen siroedd Gwynedd a Dyfed.

Ond erbyn heddiw mae ganddyn nhw aelodau cynulliad o gadarnleoedd y Blaid Lafur yng nghymoedd de Cymru sef y Rhondda ac Islwyn.

Hefyd fe lwyddodd y blaid i ennill seddi eraill fel Conwy a Llanelli, seddi yr oedd wedi'u hystyried yn amhosib i'w hennill cyn hynny.



Hefyd fe enillodd bron i 1/3 o'r pleidleisiau ar y rhestrau rhanbarthol ymhob rhanbarth yng Nghymru.

Hefyd mae dau o'r cynghorau y maen nhw'n eu rheoli yng nghymoedd y de.

Ond ai dim ond lwc oedd llwyddiant 1999 am ei bod hi'n gyfnod anodd i'r Blaid Lafur yng Nghymru?

Yn sicr roedd y Blaid Lafur yng Nghymru yn wynebu tipyn o drafferthion yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cafodd y blaid ei hysgwyd gan nifer o raniadau mewnol yn ystod ymgyrch etholiadau'r Cynulliad.

Llafur yn dadlau

Bu nifer o ddadlau am nad oedd gan y blaid ddigon o ymgeiswyr benywaidd.

Bu mwy o ddadlau wedyn pan etholwyd Alun Michael yn arweinydd y blaid ym mis Chwefror 1999.

Gyda help yr undebau mawrion a heb gefnogaeth yr aelodau cyffredin fe lwyddodd i drechu Rhori Morgan, yr ymgeisydd arall am yr arweinyddiaeth.



Arweiniodd hyn at gyhuddiadau fod Llafur yn Llundain yn rheoli digwyddiadau yng Nghymru.

Roedd nifer o'i haelodau wedi gwylltio gan gynnwys cefnogwyr ei chadarnleoedd yng Nghymru.

Ychydig iawn o etholwyr Cymru a bleidleisiodd yn etholiadau'r Cynulliad, a'r Blaid Lafur a ddioddefodd fwyaf oherwydd hyn.

Er mawr syndod i bawb fe fethon nhw ennill mwyafrif yn y Cynulliad.

Roedd hyn i gyd yn rhoi cyfle i Blaid Cymru i ennill pleidleiswyr oedd wedi eu siomi yn y Blaid Lafur.

Yn ei drafft cyntaf o'i maniffesto mae Plaid Cymru yn galw am "bolisi economaidd a chymdeithasol teg ar un llaw, a phwerau digonol i Gymru ar y llaw arall".

Mae Plaid Cymru yn cyhuddo Llafur o symud i'r dde ac mae'n honni mai hi yw'r unig blaid sy'n cynrhychioli gwerthoedd cymdeithasol yr asgell chwith."

Cwestiwn cyfansoddiadol

A dyma sut y mae'r blaid yn gobeithio ennill cefnogwyr traddodiadol Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol.

Hefyd mae'n credu y dylid gosod trethi uwch er mwyn cynyddu gwariant cyhoeddus.

Ond beth am y cwestiwn cyfansoddiadol?

Mae gwrthwynebwyr y blaid yn honni bod ei pholisi cyfansoddiadol yn niwlog iawn.

Yn yr etholiad hon fe fydd yn rhaid Mr Jones berswadio pobol fod pwrpas pleidleisio i Blaid Cymru yng etholiadau San Steffan yn ogystal ag etholiadau'r Cynulliad.

Hefyd fe fydd yn rhaid iddo sicrhau fod y blaid yn ennill seddi newydd yn San Steffan a chynyddu ei chyfran o'r bleidlais o'i chymharu ‚ 1997.

Mae hyn yn hanfodol er mwyn profi mai nid lwc yn unig oedd 1997.