Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf ers datganoli ac felly eleni fe fydd y pleidiau'n brwydro mewn tirlun gwleidyddol gwahanol iawn.
Mae nifer o'r materion fu ar flaen yr agenda yn ymgyrchoedd y gorffennol bellach wedi eu datganoli.
Ond er hyn mae'n debyg na fydd y pleidiau yng Nghymru yn gallu atal eu hunain rhag trafod y materion hyn.
Yma cewch weld beth yw safbwyntiau'r prif bleidiau ynglyn â'r materion mwyaf dadleuol.