Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 18:04 GMT
Etholiad Chwefror 1974
LLwyddodd Harold Wilson i ennill hyder y wlad
LLwyddodd Harold Wilson i ennill hyder y wlad

Chwefror 28ain 1974

Roedd llywodraeth Geidwadol Edward Heath wedi methu datrys yr anfodlonrwydd diwydiannol ym Mhrydain.

Gorfodwyd Edward Heath felly i geisio cael cefnogaeth yng nghefn gwlad er mwyn iddo wedyn fod mewn sefyllfa gref i ymdrin ‚'r undebau.

Ond dechreuodd y Blaid Lafur bortreadau ei hun fel yr unig blaid oedd yn gallu rheoli'r undebau.

Harold Wilson oedd yn Brif Weinidog unwaith eto er gwaethaf y ffaith mai llywodraeth leiafrifol oedd gan y Blaid Lafur.

Cefndir

Yn y cyfnod cyn yr etholiad felly roedd Prydain yn wynebu aflonyddwch diwydiannol.

Hefyd roedd y wlad yn dioddef problemau economiadd ac roedd argyfwng olew yn bodoli wedi'r rhyfel yr Arabiaid a'r Israeliaid yn 1973.

Tynnwyd Edward Heath i ddadl fawr ‚'r glowyr a oedd yn beirniadu polisi gwrth-chwyddiant y llywodraeth.

Gwrthododd y llywodraeth gais y glowyr am gynnydd sylweddol yn eu cyflog a dechreuodd y glowyr weithredu'n ddiwydiannol.

O fewn 24 awr datganodd y llywodraeth fod y wlad mewn argyfwng a dechreuwyd rheoli faint o drydan a g‚i ei ddefnyddio.

Nid oedd y llywodraeth a'r glowyr yn gallu dod i gytundeb a pharhaodd yr argyfwng.

Datganodd y llywodraeth y byddai'r cyflenwad o drydan fyddai ar gael i ddiwydiant yn cael ei leihau i dri diwrnod yr wythnos o Ionawr 1af ymlaen.

Ymosododd gweinidog diwydiant yr wrthblaid, Tony Benn, ar y polisi hwn gan ddadlau bod gweithred y llywodraeth yn ddiangen.

Roedd y llywodraeth yn gwrthod ildio i'r glowyr gan ddadlau na allai'r wlad fforddio'r hyn yr oedden nhw'n galw amdano.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd undeb y rheilffyrdd eu bod nhw'n mynd i weithredu'n ddiwydiannol ac yn ddiweddarach cyhoeddodd y glowyr eu bod nhw'n mynd ar streic go-iawn o fis Chwefror ymlaen.

Yr Ymgyrch

Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf i gael ei gynnal yn ystod argyfwng economiadd ers 1931.

Penderfynodd Mr Heath geisio ennill cefnogaeth yng nghefn gwlad er mwyn iddo wedyn fod mewn sefyllfa gref i ddelio ‚'r undebau llafur a'r argyfwng egni.

Ond fe fu ei ymgyrch yn un anodd a chafwyd gwrthwynebiad agored i'r llywodraeth gan ddau o gefnogwyr traddodiadol y Blaid Geidwadol.

Yn gyntaf datganodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Enoch Powell yn gyhoeddus ei fod am bleidleisio i'r Blaid Lafur yn yr etholiad.

Galwodd ar y pleidleiswyr TorÔaidd a oedd yn gwrthwynebu'r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd i bleidleisio i Lafur.

Llwyddodd Harold Wilson a'r Blaid Lafur i ecsploetio hyn yn llwyddiannus.

Yna beirniadwyd y llywodraeth gan Campbell Adamson, Pennaeth y CBI a hynny ddau ddiwrnod yn unig cyn yr etholiad.

Yn y cyfamser roedd y Blaid Lafur yn brysur yn cyhoeddi dogfen ar y cyd ‚ Chyngres yr Undebau Llafur er mwyn ceisio rhoi diwedd ar yr aflonyddwch diwydiannol.

Yn eu hymgyrchoedd gwelwyd y tair prif blaid yn addo rhoi diwedd ar chwyddiant a'r argyfwng diwydiannol.

Roedd y Blaid Lafur hefyd yn addo gwelliant yn y gwasanaeth iechyd a mwy o arian i addysg.

Ar y llaw arall roedd y TorÔaid yn canolbwyntio ar weithredu'n llym i reoli'r Undebau Llafur.

Canlyniadau

Canlyniad yr etholiad hwn fu senedd grog, y cyntaf ers 1929.

Yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad dangosai polau 'piniwn fod y Ceidwadwyr ar y blaen, ond ar y diwrnod mawr enillodd Llafur 301 o seddi a'r Ceidwadwyr 297.

Gostwng wnaeth cyfran y Ceidwadwyr a Llafur o'r pledleisiau ac roedd y cyd-bwysedd grym nawr yn gorwedd ‚'r Rhyddfrydwyr.

Dechreuodd Edwrad Heath drafod ‚'r arweinydd Rhyddfrydol Jeremy Thorpe ynglyn ‚ llywodraeth glymblaid.

Am rai dyddiau arhosodd y wlad yn eiddgar i weld a allai'r ddau arweinydd ffurfio llywodraeth newydd.

Roedd Jeremy Thorpe yn awyddus, ond roedd clymblaid ‚'r TorÔaid yn bygwth rhwygo'i blaid ac felly gwrthod wnaeth yn y diwedd.

Ar Fawrth 4ydd 1974 daeth Harold Wilson yn Brif Weinidog am y trydydd tro ond roedd Llafur 17 sedd yn fyr o fwyafrif ac felly byddai'n rhaid cynnal etholiad arall.

Roedd etholiad Chwefror 1974 felly yn cynrhychioli newid mawr yn system ddwy-blaid Prydain.

Roedd y Rhyddfrydwyr wedi llwyddo i ennill 19.3% o'r bleidlais a hynny'n bennaf ar draul y Ceidwadwyr, ond ennill dim ond 7 o seddi a wnaethon nhw er hynny.

Lleihaodd cyfran pleidleisiau'r Ceidwadwyr 8.2% a Llafur 1.2%.

Llwyddodd Plaid Genedlaethol yr Alban i ennill dwywaith cymaint o'r pleidleisiau yn yr Alban a chynyddodd ei seddi o un i saith.

Gwnaeth Plaid Cymru yn dda yng Nghymru hefyd gan ennill ei dwy sedd gyntaf mewn etholiad cyffredinol.

Penderfynod Enoch Powell beidio ag ymgeisio am ei sedd yn Wolverhampton a gadael y Ty am gyfnod.