Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic

Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 18:01 GMT
Etholiad 1955
Y Ceidwadwyr yn dychwelyd i rif 10 Downing Street
Y Ceidwadwyr yn dychwelyd i rif 10 Downing Street

Mai 26 1955

Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad unwaith eto a daeth Syr Anthony Eden yn Brif Weinidog.

Roedd y Blaid Lafur yn ranedig iawn a methodd gynnig dewis digonol I bobol yn lle'r Tor´aid.

Cefndir

Ar Ebrill 4ydd 1955 ymddiswyddodd Winston Churchill y Prif Weinidog a daeth Syr Anthony Eden i gymryd ei le cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn fuan wedi iddo ddod i rym, galwodd y Prif Weinidog etholiad cyffredinol.

Syr Anthony Eden yn olynu Winston Churchill
Syr Anthony Eden yn olynu Winston Churchill
Roedd Syr Anthony Eden yn obeithiol iawn ynglyn Ô'r etholiad gan fod y llywodraeth Geidwadol wedi bod yn llwyddiannus yn y pedair blynedd diwethaf.

Erbyn hyn, roedd y rhyfel yn Korea wedi dod i ben, roedd cynllun adeiladu tai'r llywodraeth yn llwyddiannus ac roedd y Blaid Lafur mewn anrhefn.

Roedd polau piniwn yn dangos fod y cefnogaeth I'r llywodraeth 4% yn uwch nag i'r wrth-blaid.

Yr Ymgyrch

Ni fu ymgyrch y pleidiau yn un egn´ol iawn.

Nid oedd maniffesto'r Ceidwadwyr yn cynnig llawer o bolis´au newydd i'r pleidleiswyr a'r hyn wnaeth y blaid yn bennaf oedd pwysleisio'r rhaniadau o fewn y Blaid Lafur.

Rhybuddiodd y Ceidwadwyr pe bai Attlee'n cael ei ddychwelyd y byddai Nye Bevan a'r chwith eithafol yn cymryd drosodd.

Nid oedd maniffesto Llafur yn cynnig llawer chwaith.

Roedd Attlee'n heneiddio'n gyflym, roedd y blaid yn dioddef o ddiffyg cyfeiriad gan eu bod eisoes wedi gweithredu'r rhan fwyaf o'u prif bolis´au.

Roedd y Blaid Lafur yn ranedig a doedd ei haelodau ddim yn siwr sut i ddelio Ô'r Prif Weinidog newydd.

Fe fu ymgyrch y Rhyddfrydwyr yn un dawel iawn hefyd am nad oedd ganddyn nhw lawer o arian.

Dim ond 110 sedd yr oedden nhw'n gallu fforddio ymgeisio amdanyn nhw.

Hefyd cafwyd streic bapur newydd ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol a chyfranodd hyn at wneud yr etholiad hon yn un o'r rhai distawaf yn hanes Prydain.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 277
  • Ceidwadwyr 345
  • Rhyddfrydwyr 6
  • Eraill 2

    Cyfanswm y pleidleisiau ym Mhrydain

  • Llafur 47.3%
  • Ceidwadwyr 49.3
  • Rhyddfrydwyr 2.8%
  • Eraill 0.6%

    Roedd y cyfanswm isel o'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad wedi helpu'r Ceidwadwyr, a chynyddodd eu mwyafrif.

    Am y tro cyntaf ers y 19fed ganrif roedd plaid a oedd eisoes mewn grym wedi gallu cynyddu'I chynrychiolaeth yn y senedd.

    Roedd y nifer a aeth allan i bledleisio wedi gostwng i 76% - roedd yn 82% yn 1951.

    Clement Attlee a'r Blaid Lafur yn cael eu trechu
    Clement Attlee a'r Blaid Lafur yn cael eu trechu
    Wedi i'r Blaid Lafur gael ei threchu eto penderfynodd Clement Attlee adael Ty'r Cyffredin a mynd i Dy'r Arglwyddi.

    Llwyddodd y pleidiau cenedlaethol i gynyddu eu cyfran o bleidleisiau, yn arbennig Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon.

    Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf ble gwelwyd y teledu'n cyfrannu at yr ymgyrchu, ond ni chafodd lawer o effaith ar y canlyniad terfynol.

    Roedd y llywodraeth wedi llwyddo i ennill unwiath eto a hynny o ganlyniad i heddwch a ffyniant ym Mhrydain.