BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2008, 11:42 GMT
Damwain: Gyrrwr lori yn y ddalfa
Plismones
Roedd y ddamwain yng Ngherrigman ger Amlwch yn oriau mân bore Iau

Mae gyrrwr lori 54 oed o'r Almaen yn y ddalfa wedi i bensiynwraig gael ei lladd mewn damwain ffordd ar Ynys Môn.

Fe fu Rolf Artmann o Dortmund gerbron llys arbennig yn Llangefni fore Sadwrn ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Roedd yn wynebu cyhuddiadau'n ymwneud ag oriau gyrru a pheiriant tachograph.

Fe gafodd yr achos ei ohirio tan wrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ar Ebrill 4. Doedd dim cais am fechnïaeth.

Fe fu farw Dorothy Thomas, 63 oed o Bengorffwysfa ger Amlwch, yn y ddamwain yng Ngherrigman ger Amlwch yn oriau mân bore Iau.

Roedd ei char Suzuki mewn gwrthdrawiad â'r lori ar yr A5025 am 1.05am.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud y dylai unrhyw dystion ffonio 0845 6071001.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion


Yn ôl i'r brig ^^