Cynulliad Cenedlaethol
Roedd hi'n sesiwn lawn arferol ym mhob ffordd ond un.
Wrth bleidleisio ar gynigion y dydd, cododd Mick Bates AC ei fys a chwerthin.
Yn gynharach, roedd y Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi ceryddu'r cynulliad, er gwadu gwnaeth yr AC dros Sir Drefaldwyn bod ei arwydd wedi'i anelu ato fe neu unrhyw un arall yn y Siambr.
Dywedodd: "Nid oedd fy arwydd wedi'i anelu at y Llywydd; mae gen i barch o'r mwyaf ohono.
"Dangos i Rhodri Glyn Thomas pa fys i ddefnyddio ar y system pleidleisio fodern y Cynulliad yr oeddwn i."
Ychwanegodd: "Os yw hyn wedi digio unrhyw un, yna wrth sgwrs dwi'n ymddiheuro."
Fe gafodd y fideo ei bostio ar wefan YouTube, er does neb yn gwybod pwy wnaeth hyn.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend