Cynulliad Cenedlaethol
Yn y ddeddfwriaeth wreiddiol roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli un sefydliad ym Mae Caerdydd.
Ar ôl dwy flynedd a hanner, roedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn teimlo nad oedd y cyhoedd wedi cynhesu at y teitl swyddogol.
Bu'n dadlau bod angen gwahaniaethu rhwng cabinet ei hun a'r 60 ACau a oedd yn craffu ar benderfyniadau gweinidogion.
Cyhoeddodd Mr Morgan ei fwriad i alw'r cabinet yn 'Lywodraeth y Cynulliad', tra y byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfeirio at y gweddill.
Roedd "y pensaer datganoli", sef y cyn Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies, yn feirniadol o'r dewis ar sail ei fod yn "dwli cyfansoddiadol" a fyddai'n drysu'r cyhoedd.
Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Nick Bourne hefyd wedi diystyru'r cyhoeddiad.
Dywedodd: "Ni ddylai Rhodri Morgan boeni am ble mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, nac ym mha enw, ond am yr hyn mae'r Cynulliad yn llwyddo i'w wneud dros Gymru."
Fe gymerodd dipyn o amser i'r Aelodau i ddod yn gyfarwydd â'r teitl newydd.
Roedd yna dipyn o flerwch o'r cam cyntaf ynglŷn â chysondeb y teitl ar draws gwahanol adrannau'r Cynulliad.
Yn ystod y cyhoeddiad, roedd datganiadau i'r wasg dal yn defnyddio'r ddau deitl.
Roedd y Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi beirniadu Rhodri Morgan am gyhoeddi'r teitl newydd cyn i ACau gytuno ar unrhyw newid.
Gan nad oedd y cynlluniau i newid y teitl fod i'w gadarnhau'n swyddogol am ddeufis bellach, fe wnaeth y Llywydd feirniadu'r Prif Weinidog am roi'r ceffyl o flaen y cart.
Nid oedd Stryd Downing am ymyrryd yn y ddadl, gan ddweud taw mater i'r Cynulliad yr oedd hi.
Serch hynny fe wnaethon nhw atal cynlluniau Senedd yr Alban i newid ei theitl i 'Lywodraeth yr Alban' yn gynharach yn y flwyddyn.
Datgelwyd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario £7,000 ar yr holl ymchwil.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend