Cynulliad Cenedlaethol
Yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad, o dan arweinyddiaeth y Prif Ysgrifennydd Alun Michael, fe benodwyd Christine Gwyther yn Ysgrifennydd Amaethyddiaet.
Ond a hithau yn lysieuwraig, fe gafodd Ms Gwyther ei beirniadu'n hallt gan y gwrthbleidiau a ffermwyr Cymru a oedd wedi dioddef oherwydd y gwaharddiad ar gig eidion yn y DU ers mis Mawrth 1996.
Fe gafodd Christine Gwyther ei cheryddu gan y Ceidwadwyr am fethu â chyflwyno mesurau i ddod i'r afael â'r argyfwng gwaethaf mewn amaethyddiaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Er nad oedd y cynnig o gerydd yn gallu ei gorfodi i adael ei swydd, roedd y gwrthbleidiau yn mynnu y dylai ymddwyn yn barchus ac ymddiswyddo.
Serch hynny, gwrthodwyd y cynnig ac fe barhaodd yr Ysgrifennydd Amaeth yn ei swydd am ddeng mis pellach.
Yn ystod yr amser cythryblus hwn, fe wynebodd Ms Gwyther dri chynnig o gerydd yn y Cynulliad am y ffordd y trafododd y portffolio Amaethyddiaeth.
Ym mis Gorffennaf, fe gafodd ei diswyddo gan y Prif Weinidog newydd, Rhodri Morgan ac fe benodwyd Carwyn Jones yn ei lle.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend