Page last updated at 17:12 GMT, Tuesday, 15 January 2013

Datganiad ar ddyraniadau cyfalaf

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt £91m o arian ychwanegol i'w wario yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar 15 Ionawr 2015.

Wrth wneud datganiad ar ddyrannu arian cyfalaf, cyhoeddodd:

• £30m ar gyfer prosiectau tai, er enghraifft ffyrdd gwahanol o addasu tai;

• £40m ar gyfer addysg;

• £25m dros dair blynedd ar gyfer technoleg newydd yn ymwneud â iechyd;

• £11.5m ar drafnidiaeth a seilwaith, sy'n cynnwys gwelliannau ar gyfer cylchfan A465 Abercynon a'r A55 yng ngogledd Cymru;

• £5m ar gyfer rheoli llifogydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Dywedodd y gweinidog cyllid y byddai'r arian ychwanegol hwn yn "creu dros 1,000 o swyddi ychwanegol".

Croesawodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Paul Davies y cyhoeddiad, ond fe fynegodd bryder ynglŷn â sut y penderfynodd y llywodraeth wario'r arian.

"Pa feini prawf gafodd eu defnyddio fel rhan o'r broses hon?" gofynnodd.

Roedd croeso gan lefarydd cyllid Plaid Cymru hefyd ond gofynnodd Ieuan Wyn Jones pa gynlluniau gafodd eu gollwng ar draul y cynlluniau hyn?

"Wedi'r cwbl fe ddywedodd y gweinidog nad arian newydd yw hwn," meddai.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams eisiau gwybod os oedd y gweinidog wedi penderfynu sut i wario'r £5m o arian y gronfa dechnoleg iechyd newydd ar gyfer y flwyddyn hon.

"Gaf i argymell ei wario ar dechnegau radiotherapi?" holodd.

Dywedodd Ms Hutt bod achosion busnes wrthi'n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific