Page last updated at 15:39 GMT, Tuesday, 15 January 2013

Datganiad ar dl rhanbarthol

Unodd pleidiau'r Cynulliad i gondemnio tâl rhanbarthol yn dilyn datganiad ar y mater gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar 15 Ionawr 2015.

Dywedodd i bwysau gan lywodraeth Cymru chwarae rhan fawr ym mhenderfyniad y Canghellor George Osborne i beidio â chyflwyno'r "polisi ffôl".

Ym Mawrth 2012, dadl y Canghellor oedd y byddai'r drefn yn arbed arian ac yn decach.

Ond ar 5 Rhagfyr 2012 cyhoeddodd Mr Osborne na fyddai'r cynllun yn cael ei weithredu.

Dywedodd Ms Hutt i'r llywodraeth wrthwynebu'r newid gan na fyddai o fudd i bobl Cymru.

"Mae hyn am wneud beth sy'n iawn," meddai.

"Fel llywodraeth rydym ni'n benderfynol o warchod y rhai sy'n ennill leiaf, lleihau tlodi a chau'r gagendor tâl rhwng y rhywiau."

Llongyfarchodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr waith prif economegydd y llywodraeth Jonathan Price am ei ymchwil ar dâl rhanbarthol.

"Dydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig na neb arall yn y siambr wedi gweld bod unrhyw dystiolaeth o fanteision tâl rhanbarthol," meddai Paul Davies.

Llongyfarchodd yr aelodau am y "consensws" trawsbleidiol.

Yn yr un modd, dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrot bod y canlyniad yn "dangos mor bwerus y gall y siambr hon fod pan yn sefyll fel un".

Roedd AC Plaid Cymru Alun Ffred Jones hefyd yn ymfalchïo na fyddai tâl rhanbarthol ond rhybuddiodd bod cynlluniau i gysylltu tâl athrawon â pherfformiad yn dal i fod ar y gweill.

Roedd Ms Hutt yn cytuno.

"Rydym ni'n bryderus iawn wrth edrych dros y ffin ar gyhoeddiadau polisi," meddai.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific