Page last updated at 15:13 GMT, Tuesday, 15 January 2013

Datganiad busnes

Galwodd AC Plaid Cymru Simon Thomas am ddadl ar gynlluniau ad-drefnu bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystod y datganiad busnes ar 15 Ionawr 2013.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr ac unedau mân anafiadau eraill fel rhan o newidiadau yn y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu yng ngorllewin a chanolbarth Cymru.

Dywedodd Mr Thomas: "Rydym newydd glywed y prif weinidog yn dweud dro ar ôl tro ei fod yn methu dweud a yw e'n cytuno â thynnu gwasanaethau brys yn ôl yn Llanelli, ond yn amddiffyn y cynigion yn gyffredinol.

"Fe fyddai dadl yn ein galluogi i ni ddweud ein barn ar y mater, ac yn rhoi cyfle i'r llywodraeth i fod ychydig cliriach ynglŷn ag os ydyn nhw'n cytuno â beth sydd wedi cael ei gynnig heddiw gan Hywel Dda."

Dywedodd arweinydd y tŷ bod proses ffurfiol ar ffurf ymgynghoriad eisoes yn digwydd.

Bu Ms Hutt hefyd yn ymateb i geisiadau am ddadleuon a datganiadau ar amryw o bynciau gan gynnwys yr anghydfod rhwng y BBC ac Eos, y broses o sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a'r posibilrwydd o agor carchar yng ngogledd Cymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific