Page last updated at 14:32 GMT, Tuesday, 15 January 2013

Cwestiynau i'r prif weinidog

Daeth beirniadaeth o'r gwasanaeth iechyd gan arweinydd pob gwrthblaid wrth holi'r prif weinidog ar 15 Ionawr 2013.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies bod cynlluniau bwrdd iechyd Hywel Dda yn "israddio" gwasanaeth iechyd yn nghanol a de Cymru, yn wahanol i addewidion y gweinidog iechyd yn 2011 na fyddai unrhyw wasanaeth yn cael ei israddio.

"Mae Hywel Dda yn cynnig gostwng nifer y gwelyau gofal dwys 20%," meddai Mr Davies.

"Gallai ysbytai gau, onid israddio yw hynny?

"Os nad oes gwasanaethau mewn ysbytai cyffredinol, onid israddio yw hynny?"

Wrth ymateb, beirniadodd y Prif Weinidog Carwyn Jones record y Ceidwadwyr yn San Steffan a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Dywedodd y gallai pobl Cymru "ymddiried yng ngonestrwydd llywodraeth Cymru".

Mynegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol bryderon am lawdriniaethau'n cael eu dileu gan reolwyr ysbytai.

Dywedodd Kirsty Williams y byddai'n "ddealladwy" petai'r llawdriniaethau'n cael eu dileu oherwydd pwysau annisgwyl ar y gwasanaeth iechyd, ond eglurodd bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad yw'r pwysau'n fwy na'r disgwyl am yr adeg o'r flwyddyn.

Yn ôl Mr Jones, mae'r rhan fwyaf o lawdriniaethau'n cael eu canslo am resymau na ellir eu hosgoi, gan gleifion neu am nad yw cleifion mewn sefyllfa i gael eu trin.

Holodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a fyddai'r llywodraeth yn cyhoeddi rhestr o ysbytai anniogel.

Dywedodd Mr Jones nad oedd gan Gymru ysbytai anniogel.

"Dydym ni ddim yn credu bod gwasanaethau anniogel, ond fe fyddan nhw'n anniogel heb newid," meddai.

Bu Carwyn Jones hefyd yn ateb cwestiynau ar doriadau i fudd-daliadau, bandio ysgolion a'r anghydfod rhwng Eos a'r BBC.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific