Page last updated at 08:50 GMT, Thursday, 10 January 2013

Dadl fer: Busnes yng Nghymru

Dywedodd yr AC Ceidwadol Mohammad Asghar ar 9 Ionawr 2013 ei fod eisiau gweld Cymru fel "y wlad fwyaf llwyddiannus yn y byd."

Roedd yn siarad yn ystod ei ddadl fer ar fusnes yng Nghymru.

Mynegodd AC De Ddwyrain Cymru rai o'i syniadau ar gyfer rhoi hwb i'r economi Gymreig, oedd yn cynnwys sefydlu cyngor menter i Gymru.

Roedd hefyd am weld y llywodraeth yn ystyried cynlluniau ar gyfer adeiladu maes awyr yn aber Hafren, yn hytrach na phrynu Maes Awyr Caerdydd.

Diolchodd y Gweinidog Menter Edwina Hart iddo am ei syniadau ac amlinellodd yr hyn mae'r llywodraeth yn ei wneud yn barod i gryfhau'r economi.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific