Page last updated at 18:52 GMT, Wednesday, 9 January 2013

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar drydaneiddio

Cytunodd ACau yn unfrydol i gefnogi trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru ar 9 Ionawr 2012.

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fis Gorffennaf 2012 y byddai'r rheilffordd o Lundain i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio.

Bydd y rhan helaeth o reilffyrdd y cymoedd yn cael eu trydaneiddio hefyd gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol oedd na ddylai isadeiledd trafnidiaeth gogledd Cymru gael ei hanwybyddu, safbwynt gafodd gefnogaeth lawn yn y siambr.

Maen nhw'n galw ar lywodraeth Cymru i ddatblygu achos busnes cadarn dros drydaneiddio rheillffyrdd y gogledd i'w gyflwyno i lywodraeth y DU.

Yn ôl y blaid, rhaid edrych ar bob ffordd bosibl o sicrhau cyllideb i'r cynllun, gan gynnwys y gronfa sydd newydd ei sefydlu gwerth €50bn, Cyfleuster Cysylltu Ewrop sydd ar gyfer cynlluniau o'r fath.

Dywedodd AC Gogledd Cymru y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts mai trwy gyd-weithio rhwng gwleidyddion y sicrhawyd trydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru a bod angen gwneud yr un peth i gael yr un canlyniad i'r gogledd.

Wrth ymateb, pwysleisiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant bod y llywodraeth yn gweithio i gael rhwydwaith drenau fodern i Gymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific