Page last updated at 09:19 GMT, Thursday, 10 January 2013

Dadl Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg

Mae angen gwneud mwy i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r Gymraeg, dyna oedd y farn gyffredinol yn nadl Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg ar 9 Ionawr 2013.

Roedd y ddadl yn ymateb i gyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2011 ym mis Rhagfyr 2012.

Wrth arwain y ddadl yn Gymraeg dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, sy'n dysgu Cymraeg, bod angen gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg.

Dywedodd bod "Cymru'n colli 2,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn" .

Mae'r ganran o boblogaeth Cymru sy'n medru siarad Cymraeg wedi disgyn o 20.5% i 19% ers y cyfrifiad diwethaf yn 2001.

Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfanswm y bobl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru wedi disgyn o 582,000 i 562,000.

Rhai ffyrdd o ddelio â'r broblem yn ôl Ms Wood ydy sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i bobl ifanc, yn ogystal â lleihau'r anghydraddoldeb sy'n bodoli rhwng Lloegr a Chymru.

Dywedodd bod rhannau o Lundain ddeg gwaith cyfoethocach na rhai rannau o Gymru, a bod hynny yn "gwbl annerbyniol".

Croesawodd bod y defnydd o'r iaith wedi cynyddu mewn ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad yn draddodiadol.

Cyflwynodd y Democratiaid Rhyddfrydol welliant yn gresynu nad oedd y llywodraeth wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd.

Dyma'r ddogfen sy'n rhoi canllawiau ar sut y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried materion sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg.

Dywedodd Aled Roberts AC bod yr ymgynghoriad technegol wedi dod i ben ym mis Mehefin 2011.

Wrth siarad ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Paul Davies AC ei fod yn credu "efallai" y dylai llywodraeth Cymru rannu atebolrwydd am ddarlledu efo llywodraeth Prydain.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn credu y dylai mwy gael ei wneud i gefnogi'r rheiny sy'n meddu ar ychydig o Gymraeg i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith.

Mynegodd AC Llafur Mark Drakeford bryderon am ddyfodol yr iaith ond ei fod wedi cael calondid o fod wedi gweld defnydd cyhoeddus o'r iaith yn cynyddu ers ei blentyndod.

Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd y Gweinidog Iaith Leighton Andrews ei fod yn falch o'i record o hybu'r iaith.

Soniodd am y rhan iddo chwarae mewn sefydlu swyddfa comisiynydd yr iaith, yn ogystal â llwyddiant ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific