Page last updated at 17:57 GMT, Wednesday, 9 January 2013

Dadl y Ceidwadwyr

"Llafur ddiog yn methu â rhoi anghenion Cymru'n gyntaf" yw cyhoeddiad llywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2013 o'i bwriad i geisio prynu Maes Awyr Caerdydd yn ôl y Ceidwadwyr mewn dadl ar 9 Ionawr 2013.

Yr awgrym yw i'r llywodraeth wneud y penderfyniad heb ystyried y goblygiadau'n llawn.

Bwriad y llywodraeth yw i gwmni masnachol redeg y maes awyr dan arweiniad y llywodraeth gyda'r gobaith o wneud elw i'r trethdalwr.

Yn ôl llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Byron Davies mae'r prif weinidog wedi difrio enw da'r maes awyr yn fwriadol er mwyn medru ei wladoli.

Holodd a oedd y llywodraeth yn bwriadu talu dyled £20m y maes awyr, gan ychwanegu bod y busnes yn dal i wneud colled.

Galwodd am fwy o wybodaeth i gyfiawnhau prynu'r maes awyr.

"Efallai bod cynllun busnes dychmygol yn ddigon i gabinet y prif weinidog ond dyw e ddim yn ddigon i bobl Cymru," meddai Mr Davies.

"Pam fod yr ACau yn cael eu cadw y tywyllwch?

"Rydym ni i gyd yn gyfrifol am arian Cymru."

Holodd Eluned Parrott AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol pam fod y llywodraeth yn mynnu cyfeirio aelodau at ei rhaglen o lywodraeth a'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol wrth ymateb i gwestiynau yn y siambr, ond yn bwriadu prynu'r maes awyr er nad yw gwneud hynny yn y naill ddogfen na'r llall.

Dywedodd bod "dim tystiolaeth" y byddai'r cynllun yn arwain at fwy o hediadau o ac i'r maes awyr na chwaith yn gwella economi Cymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas nad oedd ei blaid yn mynd i "gondemnio'r" llywodraeth yn syth.

"Ond rydym ni'n disgwyl i weld beth sydd gan lywodraeth Cymru i ddweud am sut y byddan nhw'n sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd i weithredu'n effeithiol," meddai.

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod wedi ei siomi i'r Ceidwadwyr ddefnyddio "ideoleg" i gondemnio penderfyniad y llywodraeth.

"Nid mater o genedlaetholi neu breifateiddio yw hyn," meddai.

"Mae am gael porth i Gymru, am gael maes awyr i ni fel cenedl."

Ychwanegodd na fyddai'n gwneud unrhyw sylw ar y cynllun i brynu'r maes awyr gan ei fod yn fater o "gyfrinachedd".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific